Mae Cymorth Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig gweithgareddau AM DDIM i bobl 11 oed a hŷn drwy gydol y gwyliau - Rhaglen yr Haf
Ysgol Gynradd Gymraeg Bro Ogwr yn derbyn adroddiad gwych gan Estyn
Dydd Mawrth 29 Gorffennaf 2025
Wedi'i chanmol am hybu lles dysgwyr a'u teuluoedd, ei harweinyddiaeth a mwy, mae Ysgol Gynradd Gymraeg Bro Ogwr wedi rhagori mewn arolwg diweddar gan Estyn.
Canmolodd arolygwyr ymrwymiad a ffocws yr ysgol ar les, gyda thîm Emosiynol a Theuluol a Lles sefydledig sy'n cefnogi teuluoedd trwy ddarpariaeth wedi'i theilwra, sy'n cynnwys cyfeirio at wasanaethau arbenigol. Yng ngoleuni'r hinsawdd ariannol bresennol, mae cyllid grant a dderbynnir gan yr ysgol yn cael ei wario'n ofalus i sicrhau bod ymweliadau addysgol oddi ar y safle yn agored i bob disgybl.
Tynnodd adroddiad Estyn sylw at sut mae sylfeini'r ysgol wedi’u hadeiladu ar greu cymuned ofalgar sy'n annog, cefnogi a diogelu'r disgyblion a'u teuluoedd. Nodwyd cydweithrediad rhieni a chysylltiadau ag asiantaethau allanol a'r gymuned ehangach hefyd fel cryfderau.
Mae arweinyddiaeth yr ysgol wedi’i chymeradwyo yn yr adroddiad, gyda'r pennaeth yn cael ei disgrifio fel "arweinydd cadarn ac angerddol" sy'n cyfleu'n glir y safonau uchel y mae'n eu gosod iddi hi ei hun, aelodau o staff, a disgyblion.
“Rydyn ni’n falch iawn o'n hadroddiad Estyn cyhoeddedig, sy'n tynnu sylw at yr ysgol fel ‘cymuned groesawgar, hwyl a gofalgar’. Nodwyd bod staff yn gweithio'n ‘gydwybodol’, gan ddefnyddio ystod o ddulliau addysgu sy'n hyrwyddo ‘ethos sy'n seiliedig ar ddarparu mynediad i bawb i brofiadau dysgu ysgogol a diddorol sy'n annog disgyblion i gyflawni hyd eithaf eu gallu’. "Soniwyd yn arbennig yn ein hadroddiad am y pwys rydyn ni'n ei roi ar gynnig cefnogaeth gref i deuluoedd sy'n dioddef effeithiau tlodi neu'r rhai o aelwydydd incwm isel. “Roeddem wrth ein bodd fod Estyn wedi dewis tynnu sylw at y ddarpariaeth hon sy'n ‘sicrhau bod gan bawb fynediad i'r ystod gyfan o brofiadau yn ddieithriad ac yn cyfrannu'n sylweddol at yr ymdeimlad fod yr ysgol yn un teulu mawr, clos’. “Mae'r llywodraethwyr a minnau yn diolch o waelod calon i staff, disgyblion a chymuned gyfan Ysgol Gynradd Gymraeg Bro Ogwr am eu hymroddiad a'u hymrwymiad i wneud Bro Ogwr yn ysgol hapus, gynhwysol a ffyniannus."
"Llongyfarchiadau! Mae'n amlwg iawn bod gwaith caled, ymroddiad ac ymrwymiad y staff wedi’u hadlewyrchu yn yr adroddiad gwych gan Estyn. "Mae'r ysgol wedi llwyddo i greu diwylliant gofalgar, teuluol lle mae disgyblion a'u teuluoedd yn cael eu gwerthfawrogi a'u cefnogi. "Gall yr amgylchedd gobeithiol, diogel hwn helpu'r dysgwyr i gofleidio cyfleoedd a chyflawni eu potensial. Da iawn, bawb!”

