Ysgol Gynradd Hengastell yn cael ei chanmol am gysylltiadau cymunedol

Dydd Iau 03 Gorffennaf 2025

Yn ystod arolygiad diweddar gan Estyn, mae Ysgol Gynradd Hengastell, a ddisgrifir fel ysgol gynhwysol a chroesawgar gan arolygwyr, wedi ei chanmol am ei hymgysylltiad â'r gymuned, yn ogystal â'i chryfderau eraill.

Canmolwyd yr ysgol ym Mhen-y-bont ar Ogwr am y gefnogaeth y mae'n ei chynnig i gymuned yr ysgol, gan ddarparu gweithgareddau amrywiol i ddisgyblion a rhieni/gofalwyr i ddatblygu sgiliau bywyd pwysig, yn ogystal â chyngor i'r rheini sy'n wynebu amgylchiadau heriol. Nododd arolygwyr Estyn sut mae rhieni/gofalwyr yn gwerthfawrogi'r gefnogaeth hon, ac mae'n effeithio'n gadarnhaol ar les yr uned deuluol. 

Mewn amgylchedd sy'n canolbwyntio ar les a hapusrwydd y plant, roedd arolygwyr yn cydnabod sut mae disgyblion yn cyfathrebu'n hyderus, gyda dysgwyr yn dod yn fwyfwy rhugl wrth iddynt symud ymlaen trwy'r ysgol. Tynnodd adroddiad Estyn sylw at sut mae barn disgyblion yn cael ei gwerthfawrogi'n glir, gyda llawer o blant yn awyddus i gymryd rhan mewn grwpiau llais y disgybl sy'n grymuso dysgwyr i roi newid ar waith yn yr ysgol. 

Tynnodd adroddiad Estyn sylw at y Pennaeth, Ceri Littlewood, am ei dealltwriaeth o'r ysgol a'i harweinyddiaeth gref, gyda staff yn gweithio'n llwyddiannus fel tîm cefnogol. Cydnabuwyd bod gan lywodraethwyr hefyd rôl allweddol ym mywyd ysgol, gan gynnig cydbwysedd da o gefnogaeth a her i arweinwyr. 

Ysgol Gynradd Hengastell yn cael ei chanmol am gysylltiadau cymunedol

Dywedodd y Pennaeth, Ceri Littlewood: "Rwy'n falch iawn bod staff wedi cael eu cydnabod am ddarparu amgylchedd hapus a gofalgar, lle mae staff a disgyblion yn dangos lefel uchel o barch at ei gilydd. Roedd hefyd yn braf nodi bod yr arolygwyr yn cydnabod ein partneriaethau ardderchog â theuluoedd a'n gwaith sy'n canolbwyntio ar y gymuned. Mae arolygiad Estyn yn adlewyrchu ciplun o fywyd ysgol, ac mae cryfder unrhyw ysgol yn y staff sy'n gwasanaethu'r plant a'r gymuned y mae wedi'i lleoli ynddi.”

"Rydym wrth ein bodd gydag adroddiad Estyn gwych Ysgol Gynradd Hengastell! Mae'n tynnu sylw at sut mae llwyddiant ysgol yn seiliedig, yn sylfaenol, ar les y plant a'u teuluoedd. Da iawn i'r holl staff – mae'n amlwg bod eich ymroddiad, eich ymrwymiad a'ch gofal yn cael dylanwad cadarnhaol enfawr ar gymuned yr ysgol. Rydym yn hynod falch o'ch holl ymdrechion!"

Chwilio A i Y

Back to top