Ysgol Maesteg yn hawlio'r wobr aur anrhydeddus am ei hymdrechion gyda'r Gymraeg

Dydd Iau 20 Chwefror 2025

Ysgol Maesteg yw'r ysgol ddiweddaraf ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i dderbyn y Wobr Aur Siarter Iaith uchel ei bri.  Mae’r ysgol wedi ennill y fraint am ei hymdrechion i ddilyn Cymraeg Campus y Siarter Iaith, rhaglen Llywodraeth Cymru wedi’i llunio'n benodol i ysbrydoli plant a phobl ifanc i ddefnyddio'r Gymraeg ym mhob agwedd ar eu bywydau. 

Drwy gydol y 12 mis diwethaf, mae aelodau ymroddgar Criw Cymraeg yr ysgol wedi cyflawni'r ystod o wobrau sydd ar gael, o'r wobr efydd i'r aur.  Mae eu gwaith wedi ymestyn i'r gymuned ehangach, gan gynnwys trefnu cystadleuaeth cerdyn Nadolig i ysgolion cynradd lleol.  Cafodd y cardiau buddugol eu gwerthu i staff, rhieni, a'r gymuned leol, gyda'r holl elw'n mynd i Teuluoedd Arbennig Maesteg, grŵp elusen sy'n cynnig cefnogaeth i deuluoedd a phlant ag anghenion arbennig.

Bu'r Criw Cymraeg hefyd yn cydlynu rhoddion ar gyfer Banc Bwyd y Noddfa a leolir yn y ganolfan gymunedol yng Nghaerau.  Bu'r grŵp wrthi'n ofalus yn labelu pob eitem gyda'i henw Cymraeg, sy'n pwysleisio'u hymrwymiad i gefnogi'r gymuned yn ogystal â'u hymroddiad i wneud y Gymraeg yn rhan greiddiol o fywyd bob dydd.

Yn ogystal â hyn, mae'r holl weithgareddau, gan gynnwys boreau coffi cymunedol, sesiynau Cymraeg galw heibio i staff, podlediadau Cymraeg, creu fideos TikTok i helpu disgyblion gyda rheolau Cymraeg sylfaenol, cynnal gweithdai yn yr ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg leol, cymryd rhan mewn cerddoriaeth a dawns Gymraeg wedi cyfrannu at gipio'r wobr aur boblogaidd. 

"Mae bod yn rhan o'r Criw Cymraeg wedi rhoi hwb i fy hyder a fy sgiliau arwain. Ry'n ni wedi gweithio gyda llawer o bobl ar draws y gymuned. Nid yn unig ydw i wedi datblygu fy sgiliau Cymraeg, ond rwyf hefyd wedi dysgu mwy am ein diwylliant, ac mae hyn wedi fy ysbrydoli i ddefnyddio mwy o'r Gymraeg y tu allan i'r ysgol. Mae'r profiadau hyn wedi fy ngwneud i'n ddinesydd Cymraeg mwy balch."
"Rwy'n falch iawn o waith caled y grŵp eleni. Mae'r disgyblion wedi dangos sgiliau arwain ardderchog a chawsant ddylanwad cadarnhaol ar sut mae'r Gymraeg yn cael ei dathlu ar draws yr ysgol a'r gymuned leol. "Fel grŵp, byddwn yn parhau i godi proffil y Gymraeg o fewn yr ysgol a'r gymuned ehangach. Mae gan Faesteg hanes cyfoethog o ddiwylliant Cymreig ac iaith Gymraeg, ac mae'n bwysig dathlu a choffáu'r traddodiadau a'r dreftadaeth unigryw sydd gennym yma yn y cwm."

Mae gan yr adran Gymraeg gynlluniau cyffrous ar y gweill ar gyfer y misoedd i ddod, yn cynnwys taith i Wlad Belg a Pharis ym mis Mawrth. Bydd cyfle i ddisgyblion Blwyddyn 9 ymweld â safleoedd hanesyddol arwyddocaol, yn cynnwys bedd Hedd Wyn, y bardd Cymraeg a laddwyd ar ddiwrnod cyntaf Brwydr Passchendaele yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, yn ogystal â'r Parc Coffa Rhyfel Byd Cyntaf Cymreig yng Ngwlad Belg. 

"Bu'n bleser gweld Miss Lewis a'r Criw Cymraeg yn datblygu dwyieithrwydd yn Ysgol Maesteg. Maent wedi gweithio mor galed a chawsant lawer o hwyl ar hyd y ffordd! O efydd i aur, mae'r Criw wedi gweithio gyda'r staff a'r gymuned i wirioneddol atgyfnerthu'r Gymraeg yn Ysgol Maesteg - Arbennig, rydym yn hynod falch o bob un ohonoch."
"Mae'n hyfryd dysgu am ymdrechion anhygoel Ysgol Maesteg ac mae'n haeddu'r gydnabyddiaeth a gafodd drwy ennill y Wobr Aur Siarter Iaith. "Yn benodol, mae ei chefnogaeth o'i chymuned leol drwy hyrwyddo'r Gymraeg a diwylliant Cymru yn benigamp. Llongyfarchiadau! "Rwyf wedi fy ysbrydoli gan ysgolion ledled y fwrdeistref sirol sy'n cefnogi Llywodraeth Cymru i gyflawni ei nod o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050- rwy'n siŵr y byddwn yn cyrraedd y targed hwn!"

Chwilio A i Y

Back to top