Beth sy’n digwydd i’ch ailgylchu
A ydych chi erioed wedi meddwl beth sy’n digwydd i’ch ailgylchu ar ôl iddo gael ei gasglu? Yma cewch ddarganfod sut a lle yr ailgylchir eich gwastraff.
Data ailgylchu
Mae gwefan Wrap Cymru, Fy Ailgylchu Cymru, yn darparu gwybodaeth am yr ailgylchu a gesglir ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Cewch weld y wybodaeth ar:
- Y swm a ailgylchwyd
- Effaith newid yn yr hinsawdd
- Cynilion
- Cyrchfannau
Prosesau ailgylchu
Caniau
Mae caniau alwminiwm neu ddur yn cael eu toddi i lawr i wneud llawer o gynnyrch newydd gan gynnwys caniau diodydd, tuniau bwyd, rhannau ceir a beiciau neu hyd yn oed y fframiau ar gyfer paneli solar.
Un o nodweddion gwych metel yw y gellir ei ailgylchu am gyfnod amhenodol.
Cardfwrdd
Ychwanegir dŵr at gardfwrdd i greu mwydion.
Gellir sychu hwn a’i droi’n gynhyrchion cardfwrdd newydd.
Gwastraff bwyd
- Ynni - Mae’r gwastraff bwyd rydych chi’n ei anfon i gael ei ailgylchu’n mynd i gael ei drin mewn cyfleuster yn Stormy Down. Mae’n cael ei roi drwy broses o’r enw “treulio anaerobig” lle mae micro-organebau’n cael eu hychwanegu at y gwastraff bwyd. Mae’r rhain yn rhyddhau nwy methan wrth i’r gwastraff bydru, sy’n cael ei ddefnyddio i gynhyrchu trydan. Mae’r ffynhonnell yma o ynni’n golygu ein bod ni’n gallu cynhyrchu trydan gyda llai o danwydd ffosil.
- Gwrtaith - Gall ffermwyr ddefnyddio’r deunydd sydd ar ôl ar ddiwedd y driniaeth treulio anaerobig i wrteithio eu caeau. Mae hyn yn golygu bod ffermwyr angen llai o wrtaith cemegol. O ganlyniad, nid yw planhigion ac anifeiliaid yn cael niwed, gan fod llai o wrtaith cemegol yn golchi oddi ar gaeau i nentydd, afonydd a moroedd.
Gwydr
Pan mae gwydr yn cyrraedd y cyfleuster ailgylchu, mae’n cael ei ddidoli yn ôl lliw a’i falu’n ddarnau mân o’r enw ysgyrion.
Mae halogion yn cael eu tynnu o’r ysgyrion gan ddefnyddio magned, sugno gydag aer neu ddidolwyr laser.
Mae’r ysgyrion yn cael eu toddi mewn ffwrnais ar dymheredd uwch na 1500ºC ac mae cynhwysion eraill yn cael eu hychwanegu.
Wedyn mae’r gwydr hylif yn cael ei rannu’n dalpiau sy’n gallu cael eu chwythu neu eu pwyso’n boteli a jariau newydd sbon. Un nodwedd wych sy’n perthyn i wydr yw bod posib ei ailgylchu’n ddiddiwedd.
Papur
Ychwanegir dŵr at gardfwrdd i greu mwydion.
Gellir sychu hwn a’i droi’n gynhyrchion cardfwrdd newydd.
Pe baech yn rhoi papur newydd allan i’w ailgylchu heddiw, gall fod yn ôl ar silffoedd y siopau papur newydd mewn cyn lleied â phythefnos.
Plastig
Pan mae plastig yn cyrraedd y cyfleuster ailgylchu, mae’n cael ei ddidoli yn ôl math o bolymer, ei rwygo, ei olchi a’i droi’n beledi.
Wedyn, mae’r gweithgynhyrchwyr yn defnyddio’r peledi hyn i wneud cynhyrchion plastig newydd fel poteli, tybiau, defnydd polyester ar gyfer dillad, a phibellau draenio.
Electroneg
Mae electroneg wedi ei ailgylchu yn cael ei dynnu ar wahân gan robotiaid neu ei rwygo i ddatgelu'r cydrannau a gwahanu'r holl ddeunyddiau.
Mae copr yn ddeunydd pwysig iawn sy'n cael ei adfer o bob eitem electroneg. Mae electroneg yn cynnwys darnau bach o fetelau gwerthfawr fel aur, arian a phlatinwm. Mae'r meintiau hyn yn rhy fach i'w hadfer heb dechnegau ailgylchu arbenigol.
Batris
Mae batris yn cael eu didoli yn gyntaf yn ôl y cemeg a ddefnyddir ynddynt. Mae batris sy'n seiliedig ar blwm yn cael eu trin yn wahanol i fatris lithiwm-ion, er enghraifft.
Ar ôl eu didoli, mae batris yn cael eu rhoi trwy gamau gwahanu deunydd i gynhyrchu 'màs du'. Mewn rhai prosesau, mae'r deunydd yn cael ei gynhesu mewn ffwrnais i dymheredd o ryw 700 ºC i gael gwared ar yr cydrannau electrolyt a chydrannau peryglus eraill.
Yna anfonir màs du i burfa metelegol i adfer metelau pwysig fel nicel, cobalt a lithiwm.
Mae'r deunydd gradd batri a gynhyrchir o buro yn dod yn borthiant i weithgynhyrchwyr wneud batris newydd.
Tecstilau
Mae tecstilau yn cael eu didoli'n ofalus gan staff sydd wedi cael hyfforddiant uchel i wahanol raddau i'w hailddefnyddio.
Mae dillad y gellir eu hailddefnyddio yn cael eu byrnu i wahanol grwpiau fel ffasiwn merched neu gymysgedd dynion, i'w gwerthu i siopau dillad yma a thramor.
Mae eitemau nad ydynt yn addas i'w hailddefnyddio yn uniongyrchol yn cael eu trawsnewid yn gadachau sychu diwydiannol, clytiau fflocs.
Am ragor o wybodaeth am ailgylchu a gwastraff ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr cysylltwch â: