Siopau Achub – Partneriaeth

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, mewn partneriaeth â Plan B Management Solutions a'r elusen gymunedol Groundwork Wales, wedi sefydlu dwy siop ailddefnyddio ar y safle yng Nghanolfannau Ailgylchu Cymunedol y Pîl a Maesteg.

Mae'r holl elw o werthu eitemau yn cefnogi Groundwork Wales sydd, yn ei dro, yn cefnogi gweithredu ymarferol i greu dyfodol teg a gwyrdd lle mae pobl, lleoedd a natur yn ffynnu.

Mae'r bartneriaeth hon yn galluogi cymorth gydag eitemau cartref fforddiadwy, wrth leihau eitemau sy'n mynd i safleoedd tirlenwi.

Gall preswylwyr naill ai roi neu brynu eitemau mewn cyflwr da, megis celfi cartref a nwyddau trydanol a fyddai fel arall yn cael eu hanfon i safleoedd tirlenwi.

Pan fyddwch am adael eitemau ar unrhyw ddiwrnod pan fydd y siopau ar gau, gall preswylwyr siarad â staff y safle a fydd yn eu cymryd a'u storio'n ddiogel.

Peidiwch â gadael gwastraff y tu allan neu o amgylch drysau'r siopau ailddefnyddio. Gallech chi gael eich erlyn am dipio anghyfreithlon.

Furniture Revival y Pîl

Cyfeiriad: 40b Sturmi Way, Ystâd Ddiwydiannol Fferm Bentreff, Pîl, CF33 6BZ
Oriau Agor 1: Dydd Llun: 9am - 3pm
Oriau Agor 2: Dydd Mawrth: Ar Gau
Oriau Agor 3: Dydd Mercher: 9am - 3pm
Oriau Agor 4: Dydd Iau: Ar Gau
Oriau Agor 5: Dydd Gwener: 9am - 3pm
Oriau Agor 6: Dydd Sadwrn: 9am - 3pm
Oriau Agor 7: Dydd Sul: Ar Gau

Y Sidings Maesteg

Cyfeiriad: Ystâd Ddiwydiannol Heol Tŷ Gwyn, Maesteg, CF34 0BQ
Oriau Agor 1: Dydd Llun: Ar Gau
Oriau Agor 2: Dydd Mawrth: 9am - 3pm
Oriau Agor 3: Dydd Mercher: Ar Gau
Oriau Agor 4: Dydd Iau: 9am - 3pm
Oriau Agor 5: Dydd Gwener: Ar Gau
Oriau Agor 6: Dydd Sadwrn: Ar Gau
Oriau Agor 7: Dydd Sul: Ar Gau
Siopau achub

Chwilio A i Y

Back to top