Casgliadau gwyliau banc

Gwybodaeth ynghylch gwasanaethau ailgylchu a gwastraff yn ystod cyfnod gwyliau’r Pasg, gan gynnwys:

  • Casgliadau gwastraff ac ailgylchu
  • Pethau sy’n bosib eu hailgylchu a phethau nad yw’n bosib eu hailgylchu
  • Canolfannau ailgylchu
Graffig: Ailgylchu a gwastraff dros y Pasg

Casgliadau ailgylchu a gwastraff

  • Bydd y casgliadau yn digwydd yn ôl yr arfer Ddydd Gwener y Groglith 18 Ebrill 2025
  • Ni fydd casgliadau ar Dydd Llun y Pasg 21 Ebrill 2025
  • Bydd casgliadau'r wythnos yn dechrau dydd Llun 21 Ebrill 2025 yn digwydd un diwrnod yn hwyrach na’r arfer.
  • Bydd y casgliadau’n dychwelyd i’r drefn arferol ar Ddydd Llun 28 Ebrill 2025

Diwrnod Casglu Arferol

Diwrnod Casglu’r Gwyliau

Dydd Llun 21 Ebrill 2025

Dydd Mawrth 22 Ebrill 2025

Dydd Mawrth 22 Ebrill 2025

Dydd Mercher 23 Ebrill 2025

Dydd Mercher 23 Ebrill 2025

Dydd Iau 24 Ebrill 2025

Dydd Iau 24 Ebrill 2025

Dydd Gwener 25 Ebrill 2025

Dydd Gwener 25 Ebrill 2025

Dydd Sadwrn 26 Ebrill 2025

Cynwysyddion ailgylchu

Beth sy’n gallu/ddim yn gallu cael ei ailgylchu

Os ydych chi’n ansicr ynghylch beth gallwch chi a beth na allwch chi ei ailgylchu dros y Pasg, dyma ganllaw syml:

Ie, os gwelwch yn dda:

  • Cardbord, gan gynnwys cardbord wy Pasg
  • Plastig clir wy Pasg
  • Ffoil wy Pasg
  • Cardiau Pasg Plaen
  • Gwastraff bwyd
  • Hambyrddau ffoil glân
  • Jariau a photeli gwydr
  • Poteli plastig
  • Tuniau bwyd a chaniau diod

Dim diolch:

  • Deunydd lapio plastig melysion neu siocled
  • Cardiau’r Pasg gyda gliter
  • Papur lapio
  • Papur seloffen
  • Plastig du
  • Papur swigod
  • Polystyren
  • Rhubanau
Recycling centre

Canolfannau Ailgylchu

Bydd canolfannau ailgylchu cymunedol ar agor fel yr arfer.

Am fwy o wybodaeth ynghylch canolfannau ailgylchu yn y fwrdeistref sirol, ewch i’n tudalen canolfannau ailgylchu:

Chwilio A i Y

Back to top