Diweddariadau casglu

Mae casgliadau gwastraff ac ailgylchu ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn digwydd rhwng 7am a 5pm fel rheol.

Os ydych yn credu bod eich casgliad wedi’i fethu, gwiriwch isod am ddiweddariadau a chyngor.

Peidiwch ag adrodd am gasgliad a fethwyd tan ar ôl 5pm ar eich diwrnod casglu arferol neu os yw wedi’i restru isod fel un a fethwyd. Y rheswm am hyn yw er mwyn sicrhau bod y criwiau’n cael digon o amser i gwblhau casgliadau yn eich ardal.

Dydd Llun 5 Ionawr 2026 

Oherwydd tywydd garw, gall rhai casgliadau gwastraff ac ailgylchu gael eu gohirio am resymau iechyd a diogelwch. 

Cynghorir preswylwyr i adael unrhyw ailgylchu allan tan ddiwedd eu diwrnod casglu - os na chaiff y gwastraff ei gasglu, ewch ag ef yn ôl i mewn a'i roi allan eto ar eich diwrnod casglu nesaf.

Ar gyfer unrhyw gasgliadau sbwriel a gollir, a fyddech gystal â gadael y gwastraff allan nes ei fod yn cael ei gasglu, a ddylai fod cyn diwedd yr wythnos.

Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra. 

Adrodd am gasgliad a fethwyd

Os na chafodd eich gwastraff neu ailgylchu ei gasglu ac nid yw wedi’i restru uchod, gallwch adrodd am gasgliad a fethwyd ar-lein:

  1. Nodwch eich cod post a dewiswch ‘Chwilio am eiddo’
  2. Dewiswch eich cyfeiriad
  3. Dewiswch ‘Casgliadau ailgylchu’ neu ‘Casgliadau sachau sbwriel’
  4. Dewiswch ‘Casgliad a fethwyd’
  5. Nodwch eich enw, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost
  6. Dewiswch ‘Cadarnhau’r Cais’ i gwblhau’r cais
  7. Gadewch eich bagiau/blychau allan ar gyfer eu casglu

Chwilio A i Y

Back to top