Bydd Cymru’n pleidleisio ddydd Iau 7 Mai 2026. Ewch i'n tudalen wybodaeth Etholiad y Senedd.
Diweddariadau casglu
Mae casgliadau gwastraff ac ailgylchu ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn digwydd rhwng 7am a 5pm fel rheol.
Os ydych yn credu bod eich casgliad wedi’i fethu, gwiriwch isod am ddiweddariadau a chyngor.
Peidiwch ag adrodd am gasgliad a fethwyd tan ar ôl 5pm ar eich diwrnod casglu arferol neu os yw wedi’i restru isod fel un a fethwyd. Y rheswm am hyn yw er mwyn sicrhau bod y criwiau’n cael digon o amser i gwblhau casgliadau yn eich ardal.
Dydd Mercher 18 March 2026
Cafwyd oedi gydag ychydig o gasgliadau ailgylchu yn yr ardaloedd canlynol:
Gwastraff Gardd: Sarn, Tondu, Pencoed, Bryncethin, Aberkenfig, Cefn Cribwr,Mynydd Cynffig, Ynysawdre
Gadewch yr eitem(au) allan i gael eu casglu. Fe geisiwn gasglu cyn gynted â phosib.
Adrodd am gasgliad a fethwyd
Os na chafodd eich gwastraff neu ailgylchu ei gasglu ac nid yw wedi’i restru uchod, gallwch adrodd am gasgliad a fethwyd ar-lein:
- Nodwch eich cod post a dewiswch ‘Chwilio am eiddo’
- Dewiswch eich cyfeiriad
- Dewiswch ‘Casgliadau ailgylchu’ neu ‘Casgliadau sachau sbwriel’
- Dewiswch ‘Casgliad a fethwyd’
- Nodwch eich enw, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost
- Dewiswch ‘Cadarnhau’r Cais’ i gwblhau’r cais
- Gadewch eich bagiau/blychau allan ar gyfer eu casglu