Mae angen adolygiad o'ch hawliad am Fudd-dal Tai/Gostyngiad yn y Dreth Gyngor i sicrhau bod yr wybodaeth sydd gennym yn gywir ac yn gyfredol.
Os yw eich hawliad wedi’i ddewis ar gyfer adolygiad, byddwch wedi cael e-bost neu lythyr gydag ‘allwedd mynediad’ er mwyn gallu ei gwblhau.
Bydd angen i ni nodi unrhyw newidiadau perthnasol yn eich amgylchiadau a byddwn yn gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'r rhain.
Os yw unrhyw ran o'r wybodaeth a gedwir yn anghywir neu wedi newid, byddwch yn gallu dweud wrthym yn eich adolygiad.
Mae'n rhaid i chi gwblhau eich adolygiad o fewn 30 diwrnod iddo gael ei anfon atoch neu bydd eich hawliad yn cael ei atal, ac ni fydd unrhyw daliadau Budd-dal Tai pellach yn cael eu gwneud.
Os na fyddwch yn cwblhau eich adolygiad, bydd eich hawliad am Fudd-dal Tai yn cael ei ganslo a allai arwain at ordaliad. Bydd modd adennill hwn gennych.