Os ydych chi eisiau apelio yn erbyn y penderfyniad, rhaid i chi ddweud wrthym o fewn mis i ddyddiad y llythyr penderfynu. Neu, os ydych chi wedi gofyn i ni edrych ar y penderfyniad eto, rhaid i chi ddweud wrthym o fewn mis i ddyddiad y penderfyniad hwnnw.
Rhaid i chi wneud y canlynol:
- ysgrifennu’r penderfyniad rydych yn apelio yn ei erbyn
- y rhesymau dros eich apêl
- sicrhau eich bod yn ei llofnodi
Os bydd ein penderfyniad yn anghywir, byddwn yn ei newid. Os nad oes modd newid penderfyniad, bydd y gwasanaeth apeliadau’n edrych ar eich apêl mewn gwrandawiad tribiwnlys. Mae’r tribiwnlys yn annibynnol ar y cyngor. Mae’n cynnwys pobl sydd â chymwysterau cyfreithiol sydd wedi’u hyfforddi ym maes budd-dal tai a lwfans tai lleol.
Os yw eich apêl yn hwyr, rhaid i chi gynnwys esboniad ynghylch pam na allech apelio o fewn mis.
Sylwer nad yw rhai penderfyniadau’n cynnwys hawl i apelio.