Hawlio budd-daliadau estynedig
Rhaid i chi ddweud wrthym o fewn pedair wythnos i ddechrau gweithio neu gynyddu eich oriau os ydych yn teimlo bod gennych hawl i daliad estynedig.
Fel arall, ni fyddwch yn gymwys. Gallwch roi gwybod i ni dros y ffôn neu’n bersonol, ond rydym yn argymell eich bod yn anfon cadarnhad ysgrifenedig wedyn.
Os byddwch yn llwyddiannus, byddwn yn diwygio eich hawliad am fudd-dal. Bydd yn parhau am hyd at bedair wythnos o’r dydd Llun ar ôl i’ch lwfans cynnal incwm, lwfans ceisydd gwaith, budd-dal analluogrwydd neu lwfans anabledd difrifol gael ei stopio.
Byddwch yn cael eich talu ar y gyfradd rydych yn ei derbyn ar hyn o bryd a bydd eich hawliad yn cael ei ganslo ar ôl y cyfnod talu estynedig.
I ddal ati i hawlio budd-dal tai, lwfans tai lleol neu leihad treth gyngor ar ôl y cyfnod talu estynedig, rhaid i chi gwblhau hawliad mewn gwaith newydd. Cewch eich asesu ar sail eich manylion incwm newydd.