O 01 Mai i 30 Medi mae cŵn yn cael eu gwahardd oddi ar nifer o draethau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr - Gwahardd cŵn oddi ar draethau
Llinellau cymorth a chefnogaeth
Os ydych chi’n chwilio am gyngor, help a chefnogaeth fel noddwr neu ddinesydd Wcrainaidd, gallwch ffonio’r llinell gymorth am ddim ar:
Bydd Ffoaduriaid o Wcráin yn gymwys i deithio am ddim i un o nifer o ganolfannau croeso sy'n cael eu sefydlu yng Nghymru i ddarparu llety a chymorth ar unwaith i bobl sy’n cyrraedd o’r newydd o Wcráin.
Bydd y canolfannau croeso yn cynnwys cefnogaeth i sicrhau bod y ffoaduriaid yn gallu ymgartrefu yng Nghymru, gan gynnwys gwasanaethau cyfieithu, gwersi siarad Cymraeg a Saesneg, sesiynau ar sut i ymdopi â bywyd mewn gwlad newydd a mwy.
Bydd gwasanaethau iechyd a gwersi ysgol ar gael ynghyd â chyngor ar ddod o hyd i waith, a byddwn yn gweithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru i ddod o hyd i gartrefi tymor hwy ledled Cymru.
Gall ffoaduriaid sy’n ffoi rhag y gwrthdaro parhaus yn Wcráin deithio am ddim ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru am chwe mis. Gall gwladolion Wcráin hawlio teithio am ddim trwy ddangos pasbort Wcráin i staff ar drenau a bysiau ac mewn gorsafoedd.
Mae gwefan Noddfa Llywodraeth Cymru yn rhoi rhagor o wybodaeth am bob agwedd ar fywyd yng Nghymru yn yr iaith Wcreineg a Rwsieg isod.
Help i bobl sydd wedi profi digwyddiadau gofidus
Mae cefnogaeth hefyd i’r rhai sy’n cael anhawster gyda straen, trawma, ac iechyd meddwl ar ôl profi digwyddiadau gofidus.
Mae cefnogaeth ar gael, a chofiwch, mae gennych hawl i ofal iechyd am ddim yng Nghymru ac os ydych chi’n profi unrhyw symptomau y cyfeirir atynt yn y daflen isod, siaradwch â nyrs neu feddyg.
Darperir y daflen isod yn Saesneg ac Wcreineg.
CALL (Llinell Cyngor a Gwrando Gymunedol) – Llinell Gymorth Iechyd Meddwl
Ar gyfer unrhyw un sydd wedi’i effeithio gan y sefyllfa yn Wcráin gallwch gysylltu â CALL (Llinell Cyngor a Gwrando Gymunedol) – Llinell Gymorth Iechyd Meddwl.
Mae ar gael 24 awr y dydd i wrando a darparu cefnogaeth.
Mae’r galwadau am ddim, a gallwch ofyn am gyfieithydd.

