Credyd Cynhwysol

Mae’r credyd cynhwysol yn un taliad ar gyfer pobl sy’n chwilio am waith, neu ar incwm isel. Mae’n cymryd lle’r canlynol:

  • lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm
  • lwfans cyflogaeth a chymorth yn seiliedig ar incwm
  • cymhorthdal incwm
  • credyd treth gwaith
  • credyd treth plant
  • budd-dal tai

Mae’r credyd cynhwysol yn cael ei dalu mewn ffordd wahanol i’r budd-daliadau eraill.

Bydd rhywun a fyddai wedi cael sawl taliad ar wahân yn cael un taliad ar gyfer ei gartref. Caiff ei dalu bob mis mewn ôl-ddyledion i gyfrif banc, cymdeithas adeiladu, swyddfa’r post neu undeb credyd.

Caiff yr elfen o’ch taliad credyd cynhwysol ar gyfer rhent ei galw’n elfen tai. Chi sy’n gyfrifol am dalu’r elfen tai i’ch landlord.

Os ydych chi eisoes yn hawlio un neu fwy o’r budd-daliadau sy’n dod i ben yn raddol, dylech barhau i hawlio fel arfer.

Er hynny, os byddwch chi’n rhoi gwybod am newid perthnasol i’ch amgylchiadau o ran hen fudd-dal, fe allwch chi newid i gael y credyd cynhwysol.

Dyma rai enghreifftiau o newidiadau a all arwain at symud:

  • bod yn unig riant sy’n cael cymhorthdal incwm, ac mae eich plentyn ieuengaf yn troi’n bump oed neu’n gadael y cartref yn barhaol
  • dod yn gyfrifol am blentyn am y tro cyntaf
  • rhoi’r gorau i weithio yn sgil salwch
  • symud cyfeiriad i ardal gwasanaeth llawn, y mae Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn un ohonynt
  • hawlio credydau treth, a’ch bod wedi gwahanu oddi wrth eich partner

Gellir gweld canllaw i landlordiaid ar Gredyd Cynhwysol a rhentu tai ar gov.uk

Gall y rhan fwyaf o bobl o oedran gweithio hawlio’r credyd cynhwysol i gael help gyda chostau tai, os ydynt yn gymwys. Er hynny, ni fydd y credyd cynhwysol yn talu am gostau tai rhywun os:

  • yw’n unigolyn mewn tŷ â chymorth neu dŷ dros dro
  • yw’n unigolyn gyda thri o blant neu fwy
  • yw’n bensiynwr, heb chwaith fod yn byw gydag oedolyn o oedran gweithio

Os ydych chi o fewn un o’r grwpiau hyn, parhewch i dderbyn budd-dal tai trwy Fy Nghyfrif.

  • Os ydych chi’n bensiynwr sy’n byw â rhywun o oedran gweithio, a’u bod nhw’n dymuno derbyn credyd cynhwysol, fe allech gael eich cynnwys o fewn eu cais nhw. Byddai’r taliad Credyd Cynhwysol ar gyfer y tŷ cyfan, sy’n eich cynnwys chi. Fel arall, gallech barhau i hawlio budd-dal tai ar wahân iddyn nhw.
  • Gall rhywun mewn tŷ â chymorth neu dŷ dros dro hawlio Credyd Cynhwysol. Ond, ni fydd y taliad yn cynnwys unrhyw gostau lloches, ac felly dylent hawlio ar wahân am fudd-daliad tai trwy Fy Nghyfrif.
  • Nid yw Credyd Cynhwysol yn cynnwys costau tai ar gyfer pobl 18 i 21 mlwydd oed. Er hyn, mae eithriadau i’r rheol hwn yn cynnwys pobl:
    • sy’n gyfrifol am blentyn
    • yn derbyn budd-dal anabledd
    •  sy’n gadael gofal
    • sy’n byw mewn llety dros dro

Hawlio Credyd Cynhwysol 

Camau i hawlio Credyd Cynhwysol:

  1.  Ymgeisio am Gredyd Cynhwysol ar-lein ar wefan gov.uk
  2. Mynd i’r cyfarfod gyda’ch hyfforddwr gwaith yn y ganolfan byd gwaith i lenwi eich hawliad, ac i ddarparu unrhyw dystiolaeth

Gostyngiad Treth Gyngor

Os ydych chi’n hawlio’r credyd cynhwysol, gallwch barhau i hawlio gostyngiad y dreth gyngor. 

Nid drwy’r credyd cynhwysol mae gwneud hyn, ond yn hytrach, mae’n rhaid i chi wneud cais drwy Fy Nghyfrif gyda 'ffurflen gostyngiad y budd-dal tai a'r dreth gyngor'.

Nodwch os gwelwch yn dda: Bydd dal angen i chi hawlio budd-dal tai ar wahân trwy system credyd cynhwysol Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).

Prydau bwyd ysgol am ddim

Fe allech fod yn gymwys am brydau ysgol am ddim os ydych yn derbyn Credyd Cynhwysol. Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth.

Ffôn: 01656 643396

Angen help i gofrestru?

Gallwch ddefnyddio’r rhyngrwyd am ddim ar gyfrifiaduron:

Gall y mannau hyn eich helpu chi hefyd i chwilio am swyddi ac i ysgrifennu CV. Gall ein Tîm Budd-daliadau Tai eich helpu chi gyda chefnogaeth ddigidol hefyd. Cysylltwch â ni i drefnu apwyntiad.

Mewn amgylchiadau arbennig, efallai y bydd yn bosib i chi hawlio dros y ffôn neu drwy ymweliad i’r cartref.

Cysylltwch â llinell gymorth Credyd Cynhwysol i weld pa gymorth maen nhw’n gallu ei gynnig.

Ffôn: 0345 60007233

Os ydych chi’n fregus ac angen cyngor ar reoli eich cyllid misol a thalu eich biliau yn brydlon, byddwch yn cael cynnig cymorth cyllido personol.

Gallwn hefyd eich helpu i agor cyfrif banc i dderbyn eich taliadau Credyd Cynhwysol.

Gallwch dderbyn cymorth ar unrhyw amser wedi i’ch cais am Gredyd Cynhwysol gael ei gyflwyno. Cysylltwch â ni am apwyntiad.

Ffôn: 01656 643396
Cyfeiriad ebost: benefits@bridgend.gov.uk

Cysylltu

Cyfeiriad: Adran Budd-daliadau, Swyddfeydd Dinesig, Stryd Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB.
Ffôn: 01656 643396
Cyfeiriad ebost: benefits@bridgend.gov.uk

Chwilio A i Y

Back to top