Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr

Mae Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr yn helpu trigolion cyflogedig a di-waith Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr sydd angen cymorth gyda phob agwedd ar gyflogadwyedd. Mae ein tîm yn cynnig ystod o wasanaethau o fentora, i hyfforddiant, gwirfoddoli a dod o hyd i gyflogaeth.

P’un a ydych yn ystyried cymryd eich camau cyntaf tuag at swydd neu’n chwilio am rôl newydd, gall Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr eich helpu chi. Mae gennym agwedd gyfannol at gefnogi, drwy feithrin hyder a datblygu sgiliau trwy gymorth a hyfforddiant un i un.

Mae Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr yn darparu:

  • hyfforddiant am ddim gan gynnwys sgiliau bywyd, cymwysterau galwedigaethol a heb eu hachredu
  • cymorth cyflogadwyedd gan gynnwys chwilio am swydd a thechnegau cyfweld
  • gweithgareddau lles a chefnogaeth
  • datblygu CV, a hynny ar gyfer lleoliadau gwirfoddoli hefyd
  • sgiliau sylfaenol gan gynnwys llythrennedd a rhifedd

Efallai y byddwn hefyd yn gallu darparu cymorth ar gyfer costau cysylltiedig â gwaith, fel:

  • trafnidiaeth i’r gwaith tan y byddwch yn cael eich talu
  • dillad, er enghraifft esgidiau gwaith
Logo Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr

Manylion cyswllt

Ffôn: 01656 815317
Facebook: cyflogadwyedd

Cofrestru i dderbyn diweddariadau ar e-bost

Mae’n rhwydd i gofrestru. Yn syml, nodwch eich cyfeiriad e-bost i dderbyn gwybodaeth am gyfleoedd swyddi lleol, cymorth cyflogadwyedd, mentora a chyngor yn ogystal â chyllid ar gyfer hyfforddiant (yn amodol ar gymhwysedd).

Rydym yn cael ein hariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, y Gronfa Ffyniant Bro, a Llywodraeth Cymru, sy’n ein galluogi i barhau i ddarparu ein gwasanaethau gwerthfawr i chi ac i eraill.

Logo: Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru

Chwilio A i Y

Back to top