B.E.S.T - Hyfforddiant Cymorth Cyflogaeth Pen-y-bont ar Ogwr

Mae’r prosiect  B.E.S.T. yn rhaglen hyblyg sydd wedi'i dylunio i symleiddio recriwtio a chefnogi busnesau i gryfhau eu gweithlu.

Bydd B.E.S.T. yn cynnig amrywiaeth o fuddion i gyflogwyr i’w helpu i recriwtio a chadw'r dalent iawn. Bydd cyflogwyr yn elwa o’r canlynol:

  • Treialon gwaith hyd at bythefnos - Y cyfle i dreialu darpar weithwyr mewn amgylchedd gwaith go iawn heb unrhyw ymrwymiad na chost, dim ond y cyfle i ddod o hyd i'r person iawn.
  • Hyfforddiant cyn cyflogaeth ac yn y gwaith - Mynediad i becynnau hyfforddi wedi'u teilwra ar gyfer pob cyflogai newydd, yn amodol ar gymeradwyaeth, gan helpu recriwtiaid newydd i fod yn barod i weithio ac aros yn barod am swydd. 
  • Cymorth recriwtio am ddim - Help i greu disgrifiadau swyddi, sgrinio CVs, paru ymgeiswyr a chymorth cyfweliadau.
  • Chwe mis o fentora yn y gwaith wedi'i deilwra - Cymorth parhaus, wedi'i bersonoli i'ch cyflogeion newydd i helpu gydag integreiddio, cadw a datblygu, gan eu helpu i dyfu gyda'ch busnes. 

Y gobaith yw y bydd cyflogwyr yn gallu cyfweld ag amrywiaeth o ymgeiswyr a dewis yr un sy'n gweddu orau i'w cwmni gan ddefnyddio eu prosesau arferol.

Fodd bynnag, bydd pob ymgeisydd yn cael ei gyfeirio trwy Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr.

Diben hyn yw i’r ymgeiswyr gael eu cefnogi cyn y cyfweliad ac, os oes angen, yn ystod ac ar ôl y lleoliad swydd fel bod y cyfle yn rhoi'r profiad gorau iddynt yn ystod eu hamser gyda'r cyflogwr sy’n eu cynnal.

Yn barod i adeiladu eich tîm yn ffordd B.E.S.T.? Cofrestrwch ddiddordeb gan ddefnyddio'r ffurflen ar-lein neu cysylltwch â Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr 

Nodi diddordeb

Mae cyflogwyr yn gallu nodi eu diddordeb i gynnal lleoliad swydd trwy ein ffurflen Mynegi Diddordeb ar-lein:

Sylwer: Nid yw cwblhau'r Mynegiant o Ddiddordeb hwn yn gwarantu y byddwch yn gallu cynnal lleoliad a bydd un o'r tîm yn cysylltu i drafod B.E.S.T. cyn gynted â phosibl.  

Employability Bridgend logo

Cysylltu

Ffôn: 01656 815317

Chwilio A i Y

Back to top