Mae Cymorth Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig gweithgareddau AM DDIM i bobl 11 oed a hŷn drwy gydol y gwyliau - Rhaglen yr Haf
Hyfforddiant
Mae Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig hyfforddiant a chymwysterau AM DDIM a all roi hwb i'ch cyfleoedd gyrfa.
O hyfforddiant ymarferol ac ardystiedig fel cardiau CSCS a Chymorth Cyntaf, i gyfleoedd datblygu personol, fel magu hyder, ysgrifennu CVs a sgiliau cyfweliad, gallwn helpu gyda’r cyfan.
Rydym yn cynnig sgiliau rhifedd – o'r hanfodion hyd at gymwysterau Cymhwyso Rhif – i'r rhai sydd am fagu hyder neu ennill cymhwyster.
Os ydych chi'n rhiant a hoffai gefnogi'ch plentyn neu os oes angen sgiliau rhifedd galwedigaethol arnoch i'ch helpu i wneud cais am swyddi, p'un a ydych chi'n gyflogedig neu'n ddi-waith, gallwn ni helpu.
Os ydych chi'n gwybod beth hoffech chi ei wneud, gallwn ni eich rhoi ar y llwybr cywir. Os nad ydych chi'n siŵr beth rydych chi am ei wneud, mae ein mentoriaid yn gallu archwilio beth fyddai'r gorau i chi.
P'un a ydych chi'n chwilio am swydd neu eisoes wedi'ch cyflogi, mae gennym rywbeth i'ch helpu i gynyddu eich sgiliau.
Gan weithio gyda'n Tîm Mentora, mae ein Swyddogion Hyfforddi a Sgiliau yma i'ch arwain a nodi'r hyfforddiant perffaith wedi'i deilwra i'ch anghenion unigryw chi.
Felly, os ydych chi'n awyddus i gymryd y cam nesaf ar eich taith, cysylltwch â ni a gadewch i ni ddatgloi eich potensial gyda'n gilydd.

