Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023
Mae Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 yn nodi’r ddeddfwriaeth ddiweddaraf ar gyfer rheoli asedau treftadaeth.
Mae Polisi a chanllawiau cenedlaethol ar gael i gefnogi awdurdodau cynllunio lleol, datblygwyr, perchnogion adeiladau, meddianwyr ac asiantau. Mae hyn er mwyn bod yn sail i gynigion a rheoli newid.
Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont fel yr Awdurdod Cynllunio lleol ddyletswyddau statudol yng nghyswllt y gwaith o reoli a diogelu’r amgylchedd hanesyddol. Rôl y Tîm Cadwraeth a Dylunio yw:
- diogelu a gwella asedau hanesyddol y fwrdeistref sirol
- codi safonau mewn ansawdd dylunio ar draws y fwrdeistref sirol
- cynyddu ymwybyddiaeth, gwybodaeth a mwynhad yr amgylchedd hanesyddol ymysg y cyhoedd
Mae cyngor ac arweiniad ar gael ar bob agwedd ar gynigion atgyweirio, adfer ac addasu sy’n effeithio ar unrhyw un o’r asedau hanesyddol. Mae hyn yn cynnwys adeiladau rhestredig, archaeoleg ac ardaloedd cadwraeth.