Canllawiau Cynllunio Atodol ar gyfer Rhwymedigaethau Cynllunio a Seilwaith (Drafft)

Mae Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) Drafft ar gyfer Rhwymedigaethau Cynllunio a Seilwaith wedi'u paratoi ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.

Mae rhwymedigaethau cynllunio yn darparu modd i’r system gynllunio sicrhau buddsoddiad mewn seilwaith a’i ddarparu i gefnogi’r twf strategol a gynlluniwyd ar ei gyfer o fewn y’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Newydd a fabwysiadwyd.

Mae hyn yn angenrheidiol i helpu i unioni a/neu liniaru unrhyw effeithiau cynllunio a nodwyd wrth ystyried cais cynllunio, sicrhau ansawdd y datblygiad a gwella ei gyfraniad at ardal benodol. 

Mae’r Canllaw Cynllunio Atodol (CCA) hwn yn cefnogi ac yn ehangu ar y polisïau (ond nid yw’n creu polisi newydd), yn y CDLl newydd sy’n berthnasol i rwymedigaethau cynllunio a seilwaith.

Mae hefyd yn cydgrynhoi cyfeiriadau at y gyfres o Ganllawiau Cynllunio Atodol sy’n cynnwys canllawiau cynllunio thematig ar wahanol fathau o rwymedigaeth gynllunio (h.y., Tai Fforddiadwy, Addysg a Hamdden) i gefnogi’r broses o weithredu’r CDLl newydd.   

Mae’r CCA hwn yn darparu canllawiau penodol ar:

  • Ble, beth, pryd a sut y ceisir rhwymedigaethau cynllunio i liniaru effaith datblygiad ac i alluogi cymunedau cynaliadwy i gael eu creu.
  • Sut y bydd dull cyson yn cael ei ddilyn i bennu’r gofynion ar gyfer rhwymedigaethau cynllunio gan gydnabod y bydd pob cais yn cael ei ystyried yn ôl ei rinweddau ei hun.
  • Defnyddio amodau cynllunio (yn y lle cyntaf) a/neu rwymedigaethau cynllunio
  • Sut y bydd cytundebau cyfreithiol yn cael eu drafftio, eu negodi, eu cyhoeddi, eu cwblhau a’u monitro.

Mae canllaw atodol annhechnegol wedi’i gynhyrchu ochr yn ochr â’r Canllawiau Cynllunio Atodol hyn i esbonio sut y gellir a sut na ellir defnyddio cyfraniadau cynllunio.

Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal am 6 wythnos rhwng 29/09/2026 a 10/11/2026. 

Consultation documents

The consultation documents can be viewed below. 

Gellir gweld ffurflen sylwadau isod hefyd, a'i chyflwyno drwy:

  • lawrlwytho'r ffurflen a'i hanfon drwy e-bost i LDP@bridgend.gov.uk
  • ei hargraffu a'i phostio i'r Tîm Polisi Cynllunio Strategol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont  ar Ogwr,

Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB

Bydd yn rhaid i bob sylw ddod i law erbyn 11:59pm 10/11/2026.

Gellir cael rhagor o wybodaeth am yr ymgynghoriad drwy gysylltu â’r Tîm Polisi Cynllunio Strategol:

Ffôn: 01656 643168
Cyfeiriad ebost: LDP@Bridgend.gov.uk

Chwilio A i Y

Back to top