Ymgynghoriad ar Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft ar Gyfleusterau Addysg a Datblygiadau Preswyl

Mae Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) Drafft ar Gyfleusterau Addysg a Datblygiadau Preswyl wedi'u paratoi ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.

Bob blwyddyn, bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (CBSP) yn derbyn nifer fawr o geisiadau am ddatblygiadau tai newydd. Mae'r trigolion newydd hyn yn creu galw am leoedd ysgol ac o ganlyniad, gellid bod angen cyfleusterau addysg newydd neu wella'r ddarpariaeth bresennol.

Diben y CCA hyn yw egluro'n fanwl sut y bydd y Cyngor yn darparu cyfleusterau addysg, ac amlinellu sut y bydd y Cyngor, lle bo'n briodol, yn ceisio rhwymedigaethau cynllunio i ddarparu neu wella cyfleusterau addysg ac ysgolion yn rhan o ddatblygiadau preswyl newydd ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Bydd y CCA hyn yn ystyriaeth berthnasol wrth benderfynu ynghylch pob cais cynllunio am datblygiad preswyl, gan gynnwys ceisiadau i adnewyddu caniatâd.

Mae’r CCA yn rhoi arweiniad penodol ar:

  • Gofynion addysg ar gyfer datblygiadau preswyl, gan gynnwys trothwyon, y disgyblion a gynhyrchir, darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol, darpariaeth cyfrwng Cymraeg, cost fesul lle disgybl, buddsoddi mewn adeiladau ysgol anfoddhaol, ysgolion newydd a'r defnydd a wneir o gyfraniadau
  • Sut y cyfrifir cyfraniadau, gan ddarparu enghraifft ymarferol; a
  • Gweinyddu polisi drwy'r gwahanol gamau cynllunio, Adran 106, negodi â datblygwyr a sut y gellir ystyried materion sy'n ymwneud â hyfywedd datblygu.

Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal am 6 wythnos rhwng 17/03/2026 a 28/04/2026. 

Dogfennau ymgynghori

Gellir gweld Dogfen Ymgynghori'r CCA drafft isod. 

Gellir gweld ffurflen sylwadau isod hefyd, a'i chyflwyno drwy: 

  • lawrlwytho'r ffurflen a'i hanfon drwy e-bost i LDP@bridgend.gov.uk 
  • ei hargraffu a'i phostio i'r Tîm Polisi Cynllunio Strategol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont  ar Ogwr, Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB

Bydd yn rhaid i bob sylw ddod i law erbyn 11:59pm 28/04/2026.

Gellir cael rhagor o wybodaeth am yr ymgynghoriad drwy gysylltu â’r Tîm Polisi Cynllunio Strategol:

Cyfeiriad ebost: LDP@Bridgend.gov.uk

Chwilio A i Y

Back to top