Ymgynghoriad Drafft o Ganllawiau Cynllunio Atodol Cyfleusterau Hamdden Awyr Agored

Mae Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA)  Cyfleusterau Hamdden Awyr Agored drafft wedi cael eu paratoi i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus arnynt.

Pwrpas y Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) hyn yw cefnogi a rhoi cyfarwyddyd pellach i weithredu'r polisïau ar gyfer Cyfleusterau Hamdden Awyr Agored (CHAAau) sydd wedi'u cynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLlN) mabwysiedig (Mawrth 2024).

Mae'r ddogfen yn amlinellu sut y dylid darparu CHAAau (i gyd-fynd â datblygiadau preswyl newydd) drwy'r system gynllunio ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Bydd hyn yn helpu i liniaru'r pwysau ychwanegol a achosir gan ddatblygiadau newydd gan alluogi datblygiadau cynaliadwy sy'n seiliedig ar greu lleoedd. Mae’r dull amlweddog hwn yn allweddol i sicrhau cymunedau cytbwys, cymdeithasol gydlynol a chynaliadwy.

Ar ôl i'r CCA hyn gael eu mabwysiadu, byddant yn ystyriaeth berthnasol wrth benderfynu ynghylch pob cais cynllunio am datblygiad preswyl, gan gynnwys ceisiadau i adnewyddu caniatâd. Bydd y ddogfen yn diweddaru ac yn disodli'r ddogfen flaenorol, sef CCA 05: Cyfleusterau Hamdden Awyr Agored a Datblygiadau Tai Newydd (2022).

Mae’r CCA hyn yn rhoi arweiniad penodol ar: 

  • Ddiffiniadau o deipolegau CHAA a restrir ym Mholisi COM10
  • Sut i gyfrifo'r gofyniad ar gyfer pob math o CHAA ar y safle, yn ogystal â'r cyfraniad ariannol disgwyliedig os na ellir darparu rhai neu unrhyw CHAAau gofynnol ar y safle
  • Dylunio pob teipoleg CHAA
  • Rheoli a chynnal a chadw CHAAau ar y safle
  • Sut y gellir ystyried materion yn ymwneud â hyfywedd datblygiad mewn perthynas â darparu CHAAau. 

Cynhelir yr ymgynghoriad cyhoeddus am 6 wythnos rhwng 22 Mai a 02 Gorffennaf 2025.

Gellir cael rhagor o wybodaeth am yr ymgynghoriad drwy gysylltu â’r Tîm Polisi Cynllunio Strategol:

Cyfeiriad ebost: LDP@Bridgend.gov.uk

Dogfennau ymgynghori

Gellir gweld drafft o Ddogfen Ymgynghori'r CCA isod. 

Gellir gweld ffurflen sylwadau isod hefyd, a'i chyflwyno drwy:

  • Lawrlwytho'r ffurflen a'i hanfon drwy e-bost i LDP@Bridgend.gov.uk
  • Ei hargraffu a'i phostio i'r Tîm Polisi Cynllunio Strategol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB.

Rhaid derbyn pob sylw erbyn 11:59pm ar 02 Gorffennaf 2025.

Chwilio A i Y

Back to top