Seilwaith Gwyrdd

Mae’r term Seilwaith Gwyrdd (SG) yn disgrifio nodweddion amgylcheddol fel asedau datblygu.

  • Ar gyfer deiliaid tai - ystyr SG yw nodweddion fel bocsys adar ac ystlumod, ardaloedd bywyd gwyllt, pyllau, casgenni dŵr a phaneli solar.
  • Ar gyfer datblygwyr - mae SG yn adnodd i elwa arno yn y broses ddatblygu, ac mae’n cynnwys cynlluniau draenio trefol, toeau gwyrdd a llwybrau trafnidiaeth cynaliadwy.

Fel arweinydd mewn SG, rydym eisiau helpu deiliaid tai, perchnogion busnesau bychain a datblygwyr i ystyried yr amgylchedd naturiol wrth gynllunio. Mae hyn yn galluogi i’r fwrdeistref sirol elwa o dwf economaidd gan warchod a gwella’r amgylchedd hefyd. 

Mae pawb eisiau byw a gweithio mewn amgylchedd pleserus. Mae gwella eiddo a thir yn hanfodol i hyn yn aml.

Fel mae Cynllun Datblygu Lleol Pen-y-bont ar Ogwr a’n polisïau cynllunio yn dynodi, rydym wedi ymrwymo i wella a gwarchod asedau naturiol Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Drwy ystyried yr amgylchedd naturiol yn eich newidiadau arfaethedig, gallwch helpu i wneud Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn lle gwyrddach ac iachach.

Manteision seilwaith gwyrdd

Ceir tystiolaeth sy’n dangos bod seilwaith gwyrdd yn creu llefydd sy’n darparu manteision i fusnesau, trigolion lleol a’r cyhoedd yn gyffredinol.

Asedau seilwaith gwyrdd

Mae’r rhan fwyaf o nodweddion tirwedd naturiol a lled-naturiol yn seilwaith gwyrdd, a gall llawer gyflawni un neu fwy o swyddogaethau.

Proses ddatblygu seilwaith gwyrdd

Darllenwch am y broses ddatblygu y mae’n rhaid iddi gynnwys nodweddion amgylcheddol yn ôl y gyfraith.

Cyswllt

Am ragor o help gyda SG, cysylltwch â ni yn yr Adran Gynllunio.

Cyfeiriad ebost: planning@bridgend.gov.uk

Chwilio A i Y

Back to top