Diwrnod y Cofio
Mae Sul y Cofio yn gyfle i gofio am wasanaeth ac aberth pawb sydd wedi amddiffyn ein rhyddid ac wedi diogelu ein ffordd o fyw. Mae cynnal digwyddiadau cofio yn un ffordd o helpu i sicrhau nad yw aberthau'r unigolion hynny a wasanaethodd yn mynd yn angof.
Gwasanaeth Cofio Llangynwyd
06 Tachwedd 2026
10.30am
Neuadd Bentref Llangynwyd
Cynhelir Gwasanaeth Cofio am 10.30am ac yna gosodir y torchau wrth y gofeb ryfel.
Bydd lluniaeth ar gael yn y neuadd wedyn.
Trefnir gan Gyngor Cymuned Canol Llangynwyd.
Gorymdaith a Gwasanaeth Cofio i Blant a Theuluoedd
07 Tachwedd 2026
10.25am
Gorymdaith yn ymgynnull ar ben Wyndham Street, Gwasanaeth ger y Gofeb Ryfel yn Dunraven Place
Gorymdaith a gwasanaeth cofio wedi'u trefnu'n benodol ar gyfer plant oed ysgol gynradd a'u teuluoedd. Mae'r gwasanaeth yn rhoi cyfle i blant ddysgu am bwysigrwydd Diwrnod y Cofio mewn ffordd sy'n briodol i'w hoedran ac ystyrlon.
10.25am: Gorymdaith yn ymgynnull ar ben Wyndham Street.
10.40am: Gorymdaith yn gadael pen Wyndham Street
10.45am: Gwasanaeth wrth y Gofeb Ryfel, Dunraven Place.
Trefnir gan Gyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr
Gwasanaeth Cofio Corneli
07 Tachwedd 2026
10.30am
Canolfan Gymunedol Corneli
Gyda pherfformiad arbennig gan Gôr Mynyddcynffig i helpu i nodi'r achlysur.
Trefnir gan Gyngor Cymuned Corneli.
Sul y Cofio Pen-y-bont ar Ogwr
08 Tachwedd 2026
10.25am
Adare Street, Pen-y-bont ar Ogwr
Gorymdaith flynyddol a gwasanaeth cofio.
10.25am: Gorymdaith yn ymgynnull yn Adare Street
10.35am: Gorymdaith gadael Adare Street
10.45am: Gwasanaeth wrth y gofeb ryfel, Dunraven place
Trefnir gan Gyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr.
Gwasanaeth Coffa Coety
08 Tachwedd 2026
10.50am
Cofeb Ryfel, Eglwys y Santes Fair
Trefnir gan Eglwys y Santes Fair, Coety.
Defod y Cofio Llangrallo
08 Tachwedd 2026
10.50am
Neuadd Goffa Williams, Llangrallo
Yn dilyn y gwasanaeth bore yn Eglwys Sant Crallo, Llangrallo, cynhelir Defod y Cofio ddinesig yn Neuadd Goffa Williams, gan roi cyfle i'r gymuned ddod at ei gilydd i fyfyrio a chofio.
Trefnir gan Gyngor Cymuned Llangrallo Isaf.
Gorymdaith Maesteg
08 Tachwedd 2026
9.30am
Eglwys Sant Mihangel
Llwybr yr orymdaith: Eglwys Sant Mihangel, Church Place/Brynmawr Place / St Michaels Road, Station Hill, Commercial Street a Talbot Street.
Trefnir gan Gyngor Tref Maesteg.
Gwasanaeth Cofio Abercynffig
08 Tachwedd 2026
10.45am
Sgwâr Abercynffig
Trefnir gan Gyngor Cymuned Castellnewydd Uchaf.
Gwasanaeth Cofio Nant-y-moel
08 Tachwedd 2026
10.50am
Tŵr Cloc Nant-y-moel / Cofeb Ryfel
Trefnir gan Gyngor Cymuned Cwm Ogwr.
Gwasanaeth Cofio Gilfach Goch
08 Tachwedd 2026
10.45am
Senotaff, Parc Lles, Gilfach Goch
Trefnir gan Gyngor Cymuned Cwm Ogwr.
Gwasanaeth Cofio Melin Ifan Ddu
08 Tachwedd 2026
10.45am
Cofeb Ryfel, Sgwâr Melin Ifan Ddu
Trefnir gan Gyngor Cymuned Cwm Ogwr.
Gwasanaeth Sul y Cofio Porthcawl
08 Tachwedd 2026
10.30am
All Saints Church, Porthcawl
Cynhelir y Gwasanaeth Cofio a'r gosod torchau y tu mewn i Eglwys yr Holl Saint ar Victoria Avenue.
Mae'r gynulleidfa yn symud i'r Gofeb Ryfel gerllaw ar gyfer Defod y Cofio swyddogol a seinio'r Caniad Olaf.
Trefnir gan y Lleng Brydeinig Frenhinol a Chyngor Tref Porthcawl.
Gorymdaith a Gwasanaeth Sul y Cofio Pencoed
08 Tachwedd 2026
9.15am
Clwb Cymdeithasol Pencoed
9:15am, Ymgynnull: Mae'r orymdaith yn ymgynnull y tu allan i Glwb Cymdeithasol Pencoed (Hendre Road).
9:45am, Gorymdaith yn dechrau: Mae'r orymdaith yn mynd ymlaen o Hendre Road, yn symud dros y groesfan reilffordd, ac yn mynd i lawr Coychurch Road.
10am, Gwasanaeth Unedig: Cynhelir Gwasanaeth Cofio yng Nghapel Salem ar Coychurch Road.
10:45am, Gorymdeithio i’r Senotaff: Mae'r gynulleidfa a'r orymdaith yn ail-ffurfio i orymdeithio'n ôl tuag at ganol y dref.
11am, Defod y Cofio: Mae'r tawelwch dwy funud traddodiadol, Seinio'r Caniad Olaf, a'r seremoni gosod torchau swyddogol yn cael eu cynnal yn Senotaff Pencoed.
Trefnir gan Gyngor Tref Pencoed.
Sul y Cofio Bryncethin
08 Tachwedd 2026
2pm
Neuadd Goffa Bryncethin
Trefnir gan Neuadd Goffa Llansanffraid-ar-Ogwr.
Gwasanaeth Cofio Coytrahen
08 Tachwedd 2026
3.30pm
Canolfan Gymunedol Coytrahen
Trefnir gan Gyngor Cymuned Llangynwyd Isaf.