Cardiau Teithio Rhatach

Os yw eich prif gyfeiriad yng Nghymru a'ch bod un ai yn 60 oed neu'n hŷn neu'n bodloni meini prawf cymhwysedd anabledd y Llywodraeth, cewch deithio yn rhad ac am ddim ar y mwyafrif o wasanaethau bysiau yng Nghymru a'r gororau a theithio'n rhatach neu'n rhad ac am ddim ar sawl gwasanaeth rheilffordd.

Cyhoeddir cardiau Teithio Rhatach gan Drafnidiaeth Cymru. Gwneud cais ar-lein drwy eu gwefan yw'r ffordd gyflymaf a hawsaf i dderbyn eich cerdyn teithio.

Gwneud Cais am Gerdyn Teithio Rhatach i rai 60 a Hŷn

Bydd yn ofynnol ichi uwchlwytho un prawf o ddyddiad geni, dau brawf o gyfeiriad, llun lliw math pasbort a darparu'ch Rhif Yswiriant Gwladol. 

Ni fydd modd ichi gwblhau eich cais pe na bai'r wybodaeth hon yn cael ei darparu.

I wneud cais ar-lein ewch i Borth Trafnidiaeth Cymru a dilynwch y cyfarwyddiadau syml.

Gwneud Cais am Gerdyn Teithio Rhatach i Berson Anabl

Bydd yn ofynnol ichi uwchlwytho prawf o'ch anabledd, un prawf o ddyddiad geni, dau brawf o gyfeiriad, llun lliw math pasbort a darparu'ch Rhif Yswiriant Gwladol. 

Ni fydd modd ichi gwblhau eich cais pe na bai'r wybodaeth hon yn cael ei darparu. I wneud cais ar-lein ewch i Borth Trafnidiaeth Cymru a dilynwch y cyfarwyddiadau syml.

Os nad ydych yn gallu gwneud cais ar-lein, gallwch ofyn i ffrind, aelod o'r teulu neu rywun yr ydych yn ymddiried ynddynt i wneud cais ar eich rhan.

Os nad yw'r cymorth hwn ar gael, gallwch ymweld â'ch llyfrgell leol, ble bydd cymorth ar gael i gwblhau'ch cais. Fodd bynnag, byddwn yn eich cynghori i gysylltu â'ch llyfrgell leol cyn mynd.

Sicrhewch eich bod yn mynd â'r dystiolaeth briodol hefo chi, neu ni fydd eich cais yn cael ei brosesu.

Gwneud Cais am Gerdyn Teithio Rhatach i Berson Anabl â Chyd-deithiwr

Os ydych yn gymwys ar gyfer Cerdyn Teithio Rhatach, ond yn methu teithio ar fws heb gymorth rhywun arall, efallai y byddwch yn gymwys i gael eich asesu ar gyfer Cerdyn Teithio Rhatach i Berson Anabl â Chyd-deithiwr.

Tocyn bws wedi cael ei ddwyn, ei ddifrodi neu ar goll

Os yw eich tocyn bws wedi cael ei ddwyn, ei ddifrodi neu ar goll, gallwch wneud cais am un arall drwy ffonio Trafnidiaeth Cymru.

Mae'n bosibl y codir tâl am Gerdyn Teithio newydd.

Ffôn: 0300 303 4240

Cyswlltu

Cyfeiriad: Yr Uned Trafnidiaeth Gyhoeddus, Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB
Ffôn: 01656 642559

Chwilio A i Y

Back to top