Mae Cymorth Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig gweithgareddau AM DDIM i bobl 11 oed a hŷn drwy gydol y gwyliau - Rhaglen yr Haf
Eithrio masnachwyr rhag gorfod prynu trwydded barcio
Rhoddir hepgoriadau i adeiladwyr a masnachwyr sydd angen mynediad i lwytho/dadlwytho cerbyd mewn ardaloedd cyfyngedig neu barthau parcio preswylwyr at ddibenion gwaith. Rhaid symud y cerbydau wedyn i leoliad priodol.
Mae hepgoriadau parcio yn para am uchafswm o 1 mis. Os oes angen cyfnod hirach arnoch chi, bydd angen i chi wneud cais am hepgoriad o fis ac ailymgeisio unwaith y bydd yr hepgoriad wedi dod i ben.
Dim ond ar ôl i archwiliadau gael eu gwneud ac os oes digon o le ar gael yn yr ardal y byddwn yn rhoi hepgoriadau ar y stryd
Gwnewch gais fel masnachwr i beidio gorfod prynu trwydded barcio
Caniatewch 5 diwrnod gwaith ar gyfer rhoi hepgoriad.
Cysylltu
Cyfeiriad: Gwasanaethau Parcio, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Depo Bryncethin, Blackmill Road, Bryncethin, CF32 9YN
Ffôn:
01656 815625
Cyfeiriad ebost: residentpermit@bridgend.gov.uk