Bydd Cymru’n pleidleisio ddydd Iau 7 Mai 2026. Ewch i'n tudalen wybodaeth Etholiad y Senedd.
Ffioedd presennol
Ffïoedd cyfredol ar gyfer tystysgrifau, priodasau a phartneriaethau sifil ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Tystysgrifau genedigaeth, marwolaethau a phriodasau
Mae 4 gwahanol opsiwn o dalu am bob tystysgrif:
- £12.50 - Casgliad Gwasanaeth Safonol - Bydd eich tystysgrif ar gael i’w chasglu o’r Swyddfeydd Dinesig ym Mhen-y-bont ar Ogwr bythefnos ar ôl i chi dalu amdani.
- £15.00 - Gwasanaeth Safonol drwy’r Post - Bydd eich tystysgrif yn cael ei phostio drwy'r gwasanaeth 2il ddosbarth o fewn 7 diwrnod o dderbyn y taliad.
- £38.50 - Casgliad Gwasanaeth Blaenoriaeth - Bydd eich tystysgrif ar gael i’w chasglu o’r Swyddfeydd Dinesig ym Mhen-y-bont ar Ogwr o fewn 1 diwrnod gwaith o dderbyn y taliad. Byddwn yn trefnu amser pan fyddwch yn archebu’r dystysgrif.
- £41.00 - Gwasanaeth Blaenoriaeth drwy’r Post - Bydd eich tystysgrif yn cael ei phostio drwy'r gwasanaeth dosbarth 1af o fewn 1 diwrnod gwaith o dderbyn y taliad.
Byddwch yn ymwybodol, ni allwn gynnig unrhyw sicrwydd y bydd eich tystysgrif yn eich cyrraedd pe baech yn dewis un o opsiynau danfon y Post Brenhinol yn hytrach na’r opsiwn casglu. Os aiff ar goll yn y post, bydd angen i chi ail-ymgeisio a thalu eto.
Ffioedd priodasau a phartneriaethau sifil
- Ffi hysbysiad priodas neu bartneriaeth sifil:
- Ddim yn destun rheolaeth fewnfudo: £46.50 yr un
- Os ydych yn destun rheolaeth fewnfudo: £63 yr un
- Ffi am seremoni priodas neu bartneriaeth sifil yn y swyddfa gofrestru:
- Dydd Llun i Ddydd Mawrth: £62
- Dydd Llun i Ddydd Mawrth: £62
- Ffioedd ar gyfer Priodas neu Bartneriaeth Sifil yn Swit Penybont (hyd at 50 o westeion)
- Dydd Llun i Ddydd Sadwrn: £275
- Dydd Llun i Ddydd Sadwrn: £275
- Ffi am briodas neu bartneriaeth sifil mewn lleoliad trwyddedig:
- Dydd Llun i Ddydd Gwener: £525
- Dydd Sadwrn: £555
- Dydd Sul: £631
- Gwyliau banc: £704
- Mynychu Eglwys neu Gapel: £114.50
Dim ond drwy apwyntiad mae modd hysbysu am briodas neu bartneriaeth sifil. Bydd eich hysbysiad yn costio £46.50 y pen os nad ydych yn destun rheolaeth fewnfudo, ond gall fod yn £63 os ydych yn destun rheolaeth fewnfudo. Talwch gyda cherdyn Debyd neu Gredyd.