Amddiffyn plant

Dywedwch am blentyn sydd mewn perygl

I wneud adroddiad llawn, defnyddiwch ein ffurflen yn Atodiad F y Polisi Diogelu Corfforaethol: Amddiffyn Plant, Pobl Ifanc ac Oedolion mewn Perygl’.

Anfonwch ffurflenni wedi’u cwblhau ar gyfer y Gwasanaeth Cymorth Cynnar at:

Cyfeiriad ebost: earlyhelp@bridgend.gov.uk

Anfonwch atgyfeiriadau amddiffyn plant at:

Cyfeiriad ebost: mashcentra@bridgend.gov.uk

Cysylltu

I siarad â rhywun am les plentyn, defnyddiwch y wybodaeth gyswllt isod:

Ffôn: 01656 642320

Tîm Dyletswydd Brys (tu allan i oriau swyddfa)

Ffôn: 01443 743665

NSPCC

Ffôn: 0808 800 5000

Mae diogelu yn golygu amddiffyn iechyd, llesiant a hawliau dynol. Mae’n galluogi pobl i fyw yn rhydd rhag niwed, camdriniaeth ac esgeulustod. Mae diogelu plant a’i lles yn cynnwys:

  • eu diogelu rhag cael eu cam-drin, neu bethau sydd yn wael i’w hiechyd neu ddatblygiad
  • sicrhau eu bod yn tyfu gyda gofal diogel ac effeithiol

Caiff plentyn ei gam-drin pan fo rhywun yn ei niweidio, neu’n methu ag atal niwed. Gall plant gael eu cam-drin o fewn teulu, sefydliad neu gymuned gan bobl maen nhw’n eu hadnabod neu, yn fwy anarferol, gan ddieithryn. Gall camdriniaeth neu esgeulustod effeithio ar bobl ifanc hyd at 18 oed, y byddai gofyn iddynt gael eu hamddiffyn drwy gynllun amddiffyn plant rhyngasiantaeth.

Gall cam-drin fod yn:

  • gorfforol fel taro, ysgwyd, taflu, gwenwyno, llosgi, sgaldio, boddi, mogi, neu niwed corfforol arall gan gynnwys peri salwch
  • emosiynol fel cam-drin emosiynol parhaus ar blentyn a fyddai’n peri effeithiau niweidiol parhaus ar eu datblygiad
  • esgeulustod drwy fethiant parhaus i ateb gofynion corfforol a/neu seicolegol sylfaenol plentyn, sy’n debygol o amharu ar iechyd neu ddatblygiad y plentyn
  • rhywiol drwy orfodi neu ddenu plentyn neu berson ifanc i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol, boed y plentyn yn ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd ai peidio
  • cam-fanteisio’n rhywiol ar blant lle defnyddir plant yn rhywiol er mwyn arian, grym neu statws
  • ariannol, a allai gynnwys gamddefnyddio taliad uniongyrchol plentyn, neu lwfans cynhaliaeth addysg

Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg

Mae diogelu plant yn cael ei ymgymryd gan Gwm Taf Morgannwg. Mae’r sefydliad hwn yn bartneriaeth o:

  • Cwmni Adfer Cymuned Cymru
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
  • Heddlu De Cymru
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf
  • Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
  • Interlink Rhondda Cynon Taf
  • Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful
  • Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol Cymru

Chwilio A i Y

Back to top