Llety Gyda Chymorth

Nid yw nifer o bobl ifanc rhwng 16 - 21 oed sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn hollol barod i fyw ar eu pen eu hunain. Mae Llety â Chymorth drwy Dîm 16+ Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig amgylchedd cartref i’r bobl ifanc yma lle gallant fod yn ddiogel, datblygu eu hyder a dysgu sgiliau er mwyn byw’n annibynnol.

Rydym yn chwilio am bobl o amrywiaeth o gefndiroedd: nid oes unrhyw gyfyngiadau. 

Mae'n rhaid i chi allu bodloni’r meini prawf canlynol ac arddangos y rhinweddau canlynol:

  • Gall unrhyw un dros 25 oed gydag ystafell sbâr wneud cais i ddod yn ddarparwr llety â chymorth.
  • Nid yw bod mewn swydd lawn amser yn rhwystr rhag cymryd rhan yn y cynllun, ond bydd angen i chi fod yn hyblyg ac ar gael ar gyfer gofynion asesu a hyfforddiant a chyfarfodydd ynglŷn â’r person ifanc.
  • Ni fydd eich statws priodasol, eich rhywioldeb na’ch cefndir diwylliannol yn effeithio ar eich cais.
  • Personoliaeth gynnes a gofalgar gyda dealltwriaeth o’r anawsterau posib sy’n wynebu pobl ifanc, a dyhead i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc mewn angen.
  • Amynedd, hyblygrwydd a phendantrwydd o ran disgwyliadau a ffiniau o fewn amgylchedd y cartref, gyda disgwyliad rhesymol o alluoedd pobl ifanc.
  • Deall bod pobl ifanc o fewn y cynllun hwn yn debygol o fod wedi profi llawer o heriau, ac efallai trawma.
  • Ymrwymiad i ddarparu amgylchedd cefnogol, calonogol a diogel, yn enwedig pan nad yw pethau’n mynd yn dda i’r person ifanc.
Two adults and teenagers talking

Pam dod yn ddarparwr llety â chymorth?

Os oes gennych le yn eich cartref ac os hoffech gael ychydig o incwm ychwanegol, mae hwn wirioneddol yn gyfle i wneud gwahaniaeth i fywyd person ifanc.

Byddwch yn rhan o dîm yn cefnogi pobl ifanc a byddwch yn cael cyfleoedd hyfforddiant a’r cyfle i ddatblygu sgiliau newydd.

I rai pobl, gall y profiad hwn agor y drws i ddod yn ofalwr maeth, i eraill gall fod yn ffordd o barhau i gefnogi pobl ifanc ar ôl rhoi’r gorau i faethu.  

Mae pobl eraill yn gwerthfawrogi'r hyblygrwydd y mae cefnogi pobl ifanc dan 16 oed sy’n fwy annibynnol yn ei gynnig, yng nghyd-destun ymrwymiadau eu ffordd o fyw. 

Camau i ddod yn ddarparwr llety â chymorth

Mae angen i ni sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu paru gyda phobl sy’n oedolion diogel, gofalgar a chyfrifol. Byddwch yn ymwybodol y gall y broses gymeradwyo gymryd hyd at bum neu chwe mis ar ôl eich ymweliad cartref cyntaf.

  • Cam un: Bydd y tîm yn ymweld â’ch cartref i edrych ar eich eiddo a thrafod y cynllun yn fwy manwl. Bydd hyn yn rhoi’r cyfle i chi benderfynu ai hwn yw’r dewis cywir i chi.

  • Cam dau: Os ydych yn bodloni’r meini prawf, mae gwiriadau diogelu amrywiol yn ofynnol i’w cwblhau ynghyd ag asesiad i ystyried eich addasrwydd ar gyfer y rôl, gwiriadau awdurdod lleol, iechyd a DBS swyddogol, a geirdaon.

  • Cam tri: Byddwch chi ac unrhyw aelodau o’r teulu sy’n byw gyda chi yn cael eich asesu. Bydd panel annibynnol yn penderfynu a ydych yn addas.

  • Cam pedwar: Unwaith y byddwch wedi cael eich cymeradwyo, byddwch yn cael eich paru gyda pherson ifanc a fydd yn addas i’ch amgylchedd cartref a’ch profiadau personol. Byddwch chi ac unrhyw aelodau o’r teulu sy’n byw gyda chi yn cael eich asesu.

Cymorth Ariannol

Telir cyfanswm taliadau o £780 y mis ac fe'u telir yn fisol i ddarparwyr llety â chymorth. Caiff y swm ei dalu drwy ffynonellau amrywiol, fel cyfraniad person ifanc, gan gynnwys eu costau rhent mewn rhai achosion, a thaliadau cymorth gan wasanaethau cymdeithasol. 

Cysylltu

Os oes gennych ddiddordeb ac os ydych yn awyddus i ddysgu mwy, llenwch eich ffurflen gyswllt a byddwn yn cysylltu’n ôl i ddechrau sgwrs.

Two people talking

Astudiaeth Achos

Ar ôl bod yn ofalwr maeth yn flaenorol, daeth Cerys yn ddarparwr llety â chymorth i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gan fod cefnogi pobl ifanc 16+ oed yn cynnig mwy o hyblygrwydd iddi.

Fel gwraig weddw sy’n byw ar ei phen ei hun, mae Cerys yn mwynhau rhannu ei chartref gyda phobl ifanc, gan eu cefnogi i ddysgu sgiliau byw’n annibynnol a chynnig cymorth a chefnogaeth emosiynol yn ôl yr angen.

Mae Cerys yn disgrifio profiad llawer o bobl ifanc o fod yn 18 oed fel ‘croesffordd’. Mae hi’n awyddus i sicrhau y gallant ganolbwyntio ar eu haddysg a/neu gyflogaeth mewn amgylchedd sefydlog a chefnogol. Mae’r profiad o fod yn rhan o dîm a chael ffiniau clir wedi galluogi pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal i symud ymlaen yn llwyddiannus gyda’u bywydau. 

Mae bod yn ddarparwr llety â chymorth wedi cynnig llawer o fuddion i Cerys, gan gynnwys teimlo ei bod yn cael ei gwerthfawrogi, incwm ychwanegol, cwmni a chyfeillgarwch parhaus gyda phobl ifanc sydd bellach wedi symud ymlaen i’w llety eu hunain. 

Chwilio A i Y

Back to top