Taliadau uniongyrchol

Os oes angen cymorth arnoch i ateb eich anghenion gofal, mae’n bosibl y gallwn roi’r arian i chi wario ar y cymorth sydd ei angen arnoch, yn hytrach na defnyddio gwasanaeth y Cyngor. Taliad uniongyrchol yw hyn.

Gallwch ddefnyddio eich taliad uniongyrchol i drefnu cymorth sy’n addas i chi a’ch ffordd o fyw.

Mae taliadau uniongyrchol yn rhoi mwy o reolaeth i chi dros y cymorth sydd arnoch ei angen. Gallwch wneud penderfyniadau pwysig ynghylch eich gofal a bydd gennych lawer mwy o hyblygrwydd dros eich cymorth na’r hyn y gallwn ni ei drefnu.

Pwy all wneud cais am daliad uniongyrchol?

Gellir cynnig taliadau uniongyrchol i bobl sy’n gymwys i dderbyn gwasanaethau gofal cymdeithasol.

I fod yn gymwys, mae angen i ni wybod y gellir diwallu’ch anghenion yn y modd hwn a’ch bod yn medru rheoli’r taliadau uniongyrchol, naill ai o’ch pen a’ch pastwn eich hun, neu â chymorth sydd ar gael i chi.

Gwneud cais am daliad uniongyrchol

I gael taliad uniongyrchol, mae angen cynnal asesiad o’ch anghenion gofal.

Os ydych eisoes wedi cael asesiad, a’ch bod yn derbyn gwasanaeth, gallwch wneud cais am newid i daliadau uniongyrchol yn lle hynny.

Cysylltwch â’ch gweithiwr cymdeithasol neu â rheolwr gofal i drafod hyn.

Os nad oes gennych weithiwr cymdeithasol na rheolwr gofal, cysylltwch â’r tîm perthnasol o blith y dewisiadau isod:

Ar gyfer oedolion:

Y Ganolfan Rheoli Atgyfeiriadau Integredig

Ffôn: 01656 642279
Cyfnewid testun: ABC+447976 972020

Ar gyfer plant 18 oed ac iau:

Desg Ddyletswydd y Tîm Asesu

Ffôn: 01656 642320

Chwilio A i Y

Back to top