Llyn Wilderness Porthcawl
Mae Llyn Wilderness yn barc anffurfiol gydag ardal chwarae i blant a pharc sglefrio concrit.
Mae’n Safle o Bwysigrwydd Cadwraeth Natur. Mae rhan o ardal Wilderness hefyd yn cynnwys Gorchymyn Cadw Coed.
Mae'r llwybr o amgylch y llyn yn wastad ac yn cael ei gynnal a’i gadw’n dda. Mae'n hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio.
Dylai cŵn gael eu cadw ar dennyn oherwydd y bywyd gwyllt.
Mae digon o feinciau o gwmpas y llyn a biniau sbwriel, mae biniau cŵn mewn mannau penodol o amgylch y llwybrau.
Mae’n hawdd cyrraedd y safle o strydoedd preswyl cyfagos Heol-y-Goedwig, Woodland Avenue a Ger-y-Llyn. Mae digon o le parcio ar y stryd i ymwelwyr.
what3words: example.snug.stopped



Bywyd Gwyllt
Mae cynefinoedd gwahanol y llyn yn darparu cyfleoedd ar gyfer ystod eang o fywyd gwyllt gan gynnwys amrywiaeth o rywogaethau o adar.
Mae cofnodion yn dangos bod rhywogaethau prinnach fel Gwylan Môr y Canoldir, y Llinos Bengoch a’r Dryw Penfflamgoch wedi'u cofnodi ar y safle, ond mae Wilderness hefyd yn lle da i weld rhywogaethau mwy cyffredin.
Mae'r adar dŵr ar y safle yn cynnwys amrywiol Hwyaid Cymysgryw sy'n arddangos plu anarferol iawn.
- Merfog
- Rhufell
- Ysgreten
- Llysywen
- Byrbysgodyn
- Cerpyn
- Cerpyn Gloyw
- Cerpyn Koi
- Titw Tomos Las
- Llwyd y Gwrych
- Aderyn y To
- Dryw
- Ji-binc
- Eurbinc
- Llinos Werdd
- Aderyn Du
- Robin Goch
- Hwyaden Wyllt
- Hwyad Lydanbig
- Hwyaden Bengoch
- Alarch Dof
- Cotiar
- Iâr Ddŵr
- Gwyach Fawr Gopog
- Gwennol y Môr
- Gwylan y Penwaig
- Gwylan Gefnddu Leiaf
- Gwylan y Gweunydd
- Ydfran
- Jac-y-do
- Mulfran
- Crëyr Glas
- Gŵydd Canada
- Gïach
- Gwennol
- Gwennol Ddu
- Coch y Berllan
- Drudwen
- Hwyaden Fwsg
Ceidwad y Llyn
Mae 'Ceidwad y Llyn' yn un o'n cerfluniau derw 'Ceidwad Natur'.
Maent yn ychwanegu diddordeb at ein mannau harddwch, ac ynghyd â’r farddoniaeth sy’n cyd-fynd, maent yn dal dychymyg ymwelwyr iau drwy blethu mytholeg i’r safleoedd.
Eu nod yw sbarduno cysylltiad emosiynol â’n mannau gwyrdd, ac o ganlyniad, annog pobl i ymweld, yn ogystal â bod yn fwy ystyrlon ohonynt.