O 01 Mai i 30 Medi mae cŵn yn cael eu gwahardd oddi ar nifer o draethau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr - Gwahardd cŵn oddi ar draethau
Safleoedd hanesyddol
Dewch i ddarganfod safleoedd hanesyddol Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gan gynnwys Pont Drochi Merthyr Mawr, Neuadd y Dref Maesteg a Thŷ Sant Ioan.

Neuadd y Gweithwyr Blaengarw
Ewch i weld Neuadd y Gweithwyr hanesyddol y dref lofaol lle ysgrifennwyd ‘Calon Lân’.

Castell Coety
Ewch yn ôl mewn amser yng Nghastell Coety. Ar ôl ei adeiladu tua 1100AD, fe’i hatgyweiriwyd yn y cyfnod canoloesol hwyr ar ôl i Owain Glyndŵr ymosod arno yn 1404.

Cwt 9
Mae Cwt 9, Fferm yr Ynys, yn gwt hanesyddol o’r Ail Ryfel Byd, lle dihangodd 70 o garcharorion, prif swyddogion yr Almaen, yn 1945. Cewch weld arteffactau o’r cyfnod, dysgu am fywyd bob dydd a sut y bu iddynt ddianc ym mis Mawrth 1945.

Cynffig
Yn gyfoeth o hanes canoloesol a Rhufeinig, mae’r ardal hefyd yn gartref i Warchodfa Natur Genedlaethol Cynffig. Mae’n un o gynefinoedd bywyd gwyllt gorau Cymru, a ger Pwll Cynffig, fe welwch dafarn hanesyddol y Prince of Wales Inn.

Neuadd y Dref Maesteg
Yng nghanol y mynyddoedd ym mhen Cwm Llynfi, datblygodd Maesteg yn ystod y Chwyldro Diwydiannol. Erbyn hyn, mae neuadd hanesyddol y dref a adeiladwyd yn 1881 yn ganolfan gelfyddydau gyffrous.

Merthyr Mawr
Mae hanner y pentref yn fythynnod bach to gwellt, a’r hanner arall yn dwyni tywod enfawr gydag amrywiaeth o fywyd gwyllt. Ar gyrion y twyni, mae Castell Candleston, plasty caerog o’r 15fed ganrif. Ychydig ymhellach mae Pont Drochi o’r 15fed ganrif.

Y Castell Newydd
Am olygfeydd godidog o’r dref, dringwch fryn hanesyddol Castell Newydd i’r castell. Yn yr 1180au, atgyfnerthodd Harri II y cadarnle Normanaidd hwn.

Amgueddfa Porthcawl
Lleolir Amgueddfa Porthcawl yn Hen Swyddfa Heddlu’r dref, ac mae’r casgliadau yn cwmpasu themâu cymdeithasol, morwrol a milwrol.

Tŷ Sant Ioan
Mae Tŷ Sant Ioan, adeilad canoloesol hwyr sydd wedi goroesi’n dda, yn cael ei warchod fel adeilad rhestredig Gradd II, ac fe’i disgrifir fel yr adeilad trigiadwy hynaf yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr.
Newton
Roedd y pentref hwn yn arfer bod yn borthladd prysur. Yn ystod y 17eg ganrif, hwn oedd yr unig harbwr rhwng Aberddawan a Llansawel. Ewch i weld yr eglwys galchfaen urddasol, a ffynnon ‘hudol’ Sant Ioan.
Llangeinwyr
Pentref bach yw hwn ac iddo hanes mawr. Dyma fan geni’r athronydd Richard Price o’r 18fed ganrif, y mae ei waith llenyddol wedi’i ymgorffori yng Nghyfansoddiad Unol Daleithiau America.
Llangynwyd
Dewch o hyd i’r Hen Dŷ, tafarn hynaf de Cymru. Mae cyfoeth o hanes Cymru yn y pentref hardd hwn ar ben y bryn, megis chwedl ‘Morwyn Cefn Ydfa’ y mae ei chymeriadau anffodus wedi’u claddu ym mynwent Llangynwyd.

Llwybr Treftadaeth Pen-y-bont ar Ogwr
Gall pobl leol ac ymwelwyr ddilyn taith anhygoel drwy amser sy’n cysylltu wyth ar hugain o bwyntiau o ddiddordeb hanesyddol wedi’u gwasgaru o amgylch canol y dref, gan arddangos harddwch pensaernïol a gorffennol gwych Pen-y-bont ar Ogwr.

Cynllun Plac Glas
Dechreuwyd y Cynllun Plac Glas gan Gyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr i gydnabod cyfraniadau sylweddol i’r ardal, ac i gofio am bobl, lleoedd a digwyddiadau nodedig o fewn wardiau Morfa, Hengastell a’r Castell Newydd yng Nghyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr.