Chwarae i BAWB

Mae Cyngor Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig nifer o gyfleoedd i BOB plentyn:

  • cyfleoedd cynhwysol ar gyfer plant a phobl ifanc
  • hyfforddiant a chefnogaeth i grwpiau sy'n awyddus i fod yn fwy cynhwysol
  • llais i bobl sy'n abl mewn ffordd wahanol a'u teuluoedd
  • a llawer mwy
Plant yn neidio yn yr awyr ar stryd chwarae

Strydoedd Chwarae

Gall preswylwyr wneud cais i gau eu stryd am ddwy awr bob mis, gan greu gofod i blant chwarae y tu allan o dan oruchwyliaeth rhiant.

Plant yn chware gydag adnoddau ailgylchadwy (rhannau rhydd)

PODIAU Gweithgareddau

Mae ethos y Pod Gweithgareddau yn seiliedig ar y gred bod chwarae yn hanfodol bwysig i blant ac mae ganddo rôl allweddol yn natblygiad sgiliau corfforol, cymdeithasol, emosiynol a chreadigol.

Mamau a'u plant ifanc yn eistedd i lawr gyda logo'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd fel troslun

Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd

Gwasanaeth am ddim sy'n gyfrinachol ac yn ddiduedd ac sy'n cynnig gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ar wahanol wasanaethau i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd.

Plant a staff Dechrau'n Deg yn chwarae gyda thŷ dol y tu allan

Dechrau'n Deg

Nod y rhaglen yw gwella canlyniadau i blant a rhoi ‘Dechrau Teg’ iddynt ar gyfer dechrau’r ysgol.

Plant mewn pwll nofio

Canolfannau Hamdden Halo

Mae Halo Leisure yn rheoli wyth canolfan hamdden a phyllau nofio ar hyd a lled Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae'r gweithgareddau sydd ar gael yn rheolaidd yn cynnwys nofio, chwaraeon gyda racedi, chware meddal, carate, pêl-rwyd, gymnasteg a llawer mwy!

Plant yn darllen llyfrau mewn llyfrgell

Awen

Mae Awen yn rheoli amrywiaeth o gyfleusterau a gweithgareddau diwylliannol yn y cyngor bwrdeistref, sy'n cynnwys theatrau, llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol, Tŷ a Pharc Gwledig Bryngarw a dau brosiect yn seiliedig ar waith ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu.

Dolenni defnyddiol

Chwilio A i Y

Back to top