O 01 Mai i 30 Medi mae cŵn yn cael eu gwahardd oddi ar nifer o draethau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr - Gwahardd cŵn oddi ar draethau
Trwydded Hebryngwr
Mae’n rhaid i blant sy’n cymryd rhan mewn perfformiadau cyhoeddus gael eu goruchwylio gan hebryngydd a gymeradwyir gan y cyngor. Mae eithriadau i hyn yn cynnwys plant sydd yng ngofal eu rhieni/gofalwyr, gwarchodwr cyfreithiol, neu, dan amgylchiadau penodol, athro.
Hebryngwyr:
- yn gyfrifol am ddiogelu, cefnogi a hyrwyddo lles y plentyn
- rhaid iddynt aros gyda’r plentyn bob amser
- rhaid iddynt allu gweld y plentyn pan fydd ef ar y llwyfan, set neu’n perfformio
- sicrhau bod y plentyn/plant yn cael eu goruchwylio’n briodol pan na fyddant yn perfformio, a’u bod yn cael digon o brydau bwyd, gorffwys a gweithgareddau hamdden
- rhaid sicrhau y trefnir cyfleusterau newid addas gan y cwmni neu’r lleoliadau, ac ystafelloedd newid ar wahân ar gyfer bechgyn a merched hŷn na phump oed
Gall hebryngydd oruchwylio hyd at 12 o blant. Fodd bynnag, dan amgylchiadau penodol, efallai y byddwn yn penderfynu lleihau nifer y plant dan ofal yr hebryngydd er mwyn sicrhau bod yr holl blant yn cael eu diogelu’n iawn.
Caiff trwyddedau hebrwng eu rheoleiddio dan Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1933/63 a Rheoliadau Plant (Perfformiadau a Gweithgareddau) (Cymru) 2015.
Gwneud cais am Drwydded Hebrwng
Mae ein proses gofrestru angen:
- ffurflen gais wedi ei chwblhau
- ffotograff maint pasbort
- dau eirda safonol
- tystysgrif gwiriad manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS/CRB), a ddarperir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a chodir tâl amdani
- cwblhau hyfforddiant Amddiffyn Plant
Anfonwch geisiadau wedi’u cwblhau at: