O 01 Mai i 30 Medi mae cŵn yn cael eu gwahardd oddi ar nifer o draethau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr - Gwahardd cŵn oddi ar draethau
Trwyddedau gwaith cyflogaeth plant
Rhaid i bob plentyn oed ysgol sy’n gweithio'n rhan-amser i gyflogwr fod wedi cofrestru â'r awdurdod lleol a bod â thrwydded weithio.
Mae’r rheolau hyn yn berthnasol os yw'r plentyn yn gyflogedig neu'n gwirfoddoli, ac mae'n cynnwys trefniadau lle nad oes taliad na thaliad mewn da'n cael ei roi, gan fod y plentyn hwnnw'n dal i fod mewn cyflogaeth. Cyfrifoldeb y cyflogwr yw ymgeisio am drwydded waith er mwyn cyflogi’r plentyn hwnnw.
Rhaid i’r cyflogwr gyflawni asesiad risg person ifanc. Dylai drafod unrhyw beryglon, a bydd rhaid i gyflogwyr fod ag yswiriant priodol.
O fewn saith diwrnod o’r plentyn yn dechrau gweithio, rhaid i’r cyflogwr lenwi ffurflen gais cyflogaeth plentyn. Rhaid iddo gael ei lofnodi gan y cyflogwr, rhiant/gwarcheidwad y plentyn a’r pennaeth. Mae’r cais hwn yn nodi’r oriau, y gweithle a’r math o waith, ynghyd â manylion y plentyn.
Mae cyflogwyr yn gyfrifol am fod yn hollol ymwybodol am ddeddfwriaeth cyflogaeth plant, a dros sicrhau eu bod nhw'n cyflogi unrhyw blant mewn modd cyfreithlon.
Gwneud cais am drwyddedau cyflogaeth plant
Mae trwyddedau cyflogaeth yn benodol i’r plentyn, y cyflogwr, y gweithle, ynghyd â’r math ac oriau’r gwaith. Os oes gan berson ifanc sawl swydd, bydd angen trwydded ar gyfer pob un.
I wneud cais am drwydded cyflogaeth plant, lawrlwythwch y ffurflen gais trwydded cyflogaeth plant. Yna, dylid ei dychwelyd ynghyd â llun maint pasbort o'r plentyn wedi'i lofnodi.
Anfonwch geisiadau wedi’u cwblhau at: