O 01 Mai i 30 Medi mae cŵn yn cael eu gwahardd oddi ar nifer o draethau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr - Gwahardd cŵn oddi ar draethau
Cefnogaeth addysg a chyflogaeth
Cefnogaeth i bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed sy’n wynebu heriau o fewn addysg, cyflogaeth, neu hyfforddiant.
Nod ein hystod eang o wasanaethau yw grymuso a rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol i bobl ifanc i oresgyn heriau a chyflawni nodau personol.
Ein nod yw eich cefnogi ar eich taith at lwyddiant. Rydym yn credu, gyda’r arweiniad, y sgiliau a’r gefnogaeth gywir, gallwch oresgyn unrhyw rwystrau a sicrhau swydd eich breuddwydion
Y cymorth sydd ar gael
Mae ein clybiau gwaith yn darparu amgylchedd cefnogol i helpu i wella eich sgiliau cyflogadwyedd.
Byddwn yn eich helpu chi gyda:
- Ysgrifennu CV
- Chwilio am swydd
- Ymgeisio am swyddi
- Ymgeisio am goleg
- Canllawiau llythyr cyflwyno
- Paratoi at gyfweliad a mwy.
Galwch heibio unrhywbryd am gefnogaeth, nid oes angen apwyntiad.
Bydd ein gweithwyr ieuenctid cymwys yn cynnig cymorth personol i fynd i’r afael â’r amrywiol rwystrau y gallech fod yn eu hwynebu.
Boed yn faterion tai, budd-daliadau, ysgrifennu CV, chwilio am waith, trafnidiaeth, llesiant, camddefnyddio sylweddau, neu unrhyw heriau eraill, rydym yma i’ch helpu bob cam o’r ffordd.
Rydym yn deall pwysigrwydd iechyd meddwl a llesiant. Mae ein sesiynau Ymlacio a Sgwrsio yn creu lle diogel i chi archwilio mecanweithiau ymdopi, i reoli straen, a datblygu meddylfryd cadarnhaol.
Gallwn helpu i ddatblygu sgiliau hanfodol yn y gweithle trwy ein rhaglenni profiad gwaith a threial gwaith.
Mae'r cyfleoedd hyn yn darparu profiad ymarferol gwerthfawr mewn amgylcheddau gwaith go iawn, gan gynyddu eich siawns o sicrhau cyflogaeth yn y dyfodol.
Cymwysterau rhad ac am ddim i wella eich set sgiliau a chynyddu eich cyflogadwyedd.
Manteisiwch ar gyrsiau fel:
- CSCS
- Hylendid Bwyd
- Codi a Chario
- Diogelwch Tân
- Cymorth Cyntaf
- Gwasanaethau Cwsmer
- Iechyd a Diogelwch a mwy.