O 01 Mai i 30 Medi mae cŵn yn cael eu gwahardd oddi ar nifer o draethau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr - Gwahardd cŵn oddi ar draethau
Gwybodaeth i rieni
Mae’r Ddarpariaeth Gofal Plant ar gyfer Cymru yn darparu hyd at 30 awr yr wythnos o ofal plant yn cael ei gyllido gan y Llywodraeth ac addysg gynnar ar gyfer rhieni cymwys sy’n gweithio ac sydd â phlant tair i bedair oed, am hyd at 48 wythnos y flwyddyn, 39 wythnos yn ystod y tymor a hyd at naw wythnos o ddarpariaeth gwyliau. Sylwch fod tair wythnos wyliau yn cael eu dyrannu fesul tymor ar sail pro-rata.
Mae’r 10 awr yn cynnwys lleiafswm o 10 awr o addysg gynnar ac uchafswm o 20 awr o ofal plant. Bydd faint o ofal plant y gallwch ei dderbyn yn dibynnu ar faint o addysg gynnar a gynigir gan bob awdurdod lleol.
Gall rhieni ddewis hyd at ddau ddarparwr ar gyfer darpariaeth yn ystod y tymor a hyd at ddau ddarparwr ar gyfer darpariaeth yn ystod y gwyliau.
Bydd plant cymwys yn gallu cael mynediad i elfen gofal plant y Cynnig Gofal Plant o’r tymor ar ôl eu trydydd pen-blwydd nes eu bod yn gymwys i dderbyn lle mewn addysg llawn amser.
Gwybodaeth bwysig
Mae gan Ben-y-bont ar Ogwr bolisi addysg gynnar llawn amser estynedig i blant tair oed. Mae hyn yn golygu bod unrhyw blentyn sy'n dair cyn 31 Awst yn gymwys i addysg gynnar llawn amser yn yr ysgol o fis Medi. Ar ddechrau'r tymor ysgol pan mae plentyn yn gymwys i dderbyn lle ar gyfer addysg llawn amser, ni fydd y plentyn bellach yn gymwys i dderbyn y Cynnig Gofal Plant yn ystod y tymor, fodd bynnag, bydd modd hawlio'r ddarpariaeth gwyliau am hyd at naw wythnos y flwyddyn hyd at 31 Awst wedi iddynt droi'n bedair.
Ni fydd modd i rieni wrthod lle i addysg gynnar llawn amser er mwyn parhau i dderbyn y Cynnig Gofal Plant yn ystod y tymor. Bydd hyn dal yn berthnasol pe byddwch yn penderfynu peidio gwneud cais am le mewn ysgol neu'n gwrthod lle mewn ysgol.
Gellir defnyddio'r Cynnig Gofal Plant ar gyfer cynhaliaeth sydd wedi ei gofrestru i ddarparu'r Cynnig megis:
- meithrinfeydd
- gwarchodwyr plant
- gwarchodwyr Plant:
- crêche
- gofal y tu allan i oriau ysgol
Pan mae ysgol yn cynnig dechrau cyfnodol i'r tymor, ni fydd rhieni'n gymwys i ddefnyddio'r Cynnig Gofal Plant ar gyfer y dyddiau hyn yn ystod y tymor pan nad yw eu plant yn yr ysgol.

Cymhwystra
- Rhaid i’ch plentyn fod yn dair neu’n bedair oed ac yn byw yng Nghymru;
- Rhaid i chi fod yn ennill o leiaf, ar gyfartaledd, swm sy'n cyfateb i 16 awr yr wythnos ar Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu'r Cyflog Byw Cenedlaethol;
- Rhaid i bob rhiant fod yn ennill llai na £100,000 y flwyddyn;
- Rhaid i deuluoedd rhiant sengl fod yn gweithio neu fod mewn addysg neu hyfforddiant;
- Rhaid i’r ddau riant fod yn gweithio mewn teuluoedd dau riant, neu rhaid i’r ddau riant fod mewn addysg neu hyfforddiant, neu rhaid i un rhiant fod yn gweithio a'r rhiant arall mewn addysg neu hyfforddiant;
- Rhaid i rieni sy’n hunan-gyflogedig neu ar gontract dim oriau brofi eu cymhwysedd a darparu dogfennau perthnasol;
- rhieni sydd ar gyfnod mabwysiadu os yw’n unol â Chynllun Cefnogi Mabwysiadu’r plentyn;
- Rhieni sydd mewn addysg a/neu hyfforddiant naill ai:
- Mewn perthynas ag Addysg Uwch (AU e.e. prifysgol) – y rhiant wedi'i gofrestru ar naill ai cwrs israddedig neu ôl-raddedig, gan gynnwys y rheini a gyflwynir drwy ddysgu o bell, sy'n para am o leiaf 10 wythnos;
- Mewn perthynas ag Addysg Bellach – mae'r rhiant wedi'i gofrestru ar gwrs sy'n cael ei gyflwyno drwy Sefydliad AB, sy'n para am o leiaf 10 wythnos.
Eithriadau cymhwysedd
Mae rhai budd-daliadau yn dal i fod yn gymwys i deulu dau riant (ble mae un yn gweithio). Rhain yw:
- budd-dal analluogrwydd;
- lwfans gofalwyr
- lwfans anabledd difrifol
- lwfans cyflogaeth a chymorth
- credydau yswiriant gwladol ar sail Analluogrwydd i Weithio neu Allu Cyfyngedig i Weithio, a
- thaliadau gan y Lluoedd Arfog a wnaed i gyn-filwyr a anafwyd yn ddifrifol.
Mae yna eithriadau eraill sy'n berthnasol i deuluoedd dau riant a rhiant sengl. Rhain yw:
- os nad ydych yn y gweithle am gyfnod neu wedi gohirio eich astudiaethau am resymau sy'n gysylltiedig ag absenoldeb statudol rhiant, mamolaeth, tadolaeth neu fabwysiadu, gallwch dal fod yn gymwys am y Cynnig, a gall
- rhieni drwy berthynas, gwarcheidwaid, rhieni maeth, yn ogystal â rhieni nad oes ganddynt hawl i arian cyhoeddus, hawlio'r Cynnig cyn belled â'u bod yn bodloni meini prawf cymhwysedd y cynnig
- un rhiant yn gweithio ac un rhiant yn derbyn budd-daliadau cymwys; neu, mae un rhiant mewn addysg neu hyfforddiant ac un yn cael budd-dal cymwys
Sut i wneud cais
I wneud cais am y gwasanaeth digidol cenedlaethol Cynnig Gofal Plant Cymru, bydd angen i chi fewngofnodi yn defnyddio Porth y Llywodraeth. Os nad oes gennych gyfrif Porth y Llywodraeth, yna bydd angen i chi greu cyfrif. Unwaith y byddwch wedi cofrestru fel hyn, gallwch ddechrau ar eich cais.
Mae angen un rhiant arweiniol i gwblhau'r cais, hyd yn oed os oes gwarchodaeth ar y cyd ar waith.
Cyn i chi gychwyn ar eich cais, byddwch angen y wybodaeth ganlynol wrth law:
- Rhif Yswiriant Gwladol, cyfeiriad e-bost a rhif cyswllt
- Cyfeiriad a chod post
- Cyfeiriad a chod post eich gwaith
- Cyfeiriad a chod post gwaith eich partner ar yr aelwyd
- Eich enillion wythnosol cyfartalog chi a'ch partner ar yr aelwyd
- Eich cyflog blynyddol gros chi a'ch partner ar yr aelwyd
- Caniatâd eich partner ar yr aelwyd i ddarparu'r wybodaeth hon
- Enw(au) Plentyn/Plant a Dyddiad Geni - yn union fel sydd ar y dystysgrif geni
Peidiwch â gwneud cais cyn y dyddiad agor ar gyfer ceisiadau, gan y bydd eich cais yn cael ei wrthod yn awtomatig.
Os ganwyd eich plentyn rhwng |
Cymwys o |
Cymwys tan |
Ceisiadau ar agor |
---|---|---|---|
1 Medi 2021 and 31 Rhagfyr 2021 |
6 Ionawr 2025 (tymor y gwanwyn) |
31 Awst ar ôl ei 4ydd pen-blwydd 2026 |
Ar agor |
1 Ionawr 2022 and 31 Mawrth 2022 |
28 April 2025 (tymor yr haf) |
31 Awst ar ôl ei 4ydd pen-blwydd 2026 |
Ar agor |
1 Ebrill 2022 and 31 Awst 2022 |
2 September 2025 (tymor yr hydref) |
31 Awst ar ôl ei 4ydd pen-blwydd 2026 |
18 Mehefin 2025 |
1 Medi and 31 Rhagfyr 2022 |
5 January 2026 (tymor y gwanwyn) |
31 Awst ar ôl ei 4ydd pen-blwydd 2027 |
21 Hydref 2025 |
1 Ionawr 2023 and 31 Mawrth 2023 |
13 April 2026 (tymor yr haf |
31 Awst ar ôl ei 4ydd pen-blwydd 2027 |
27 Ionawr 2026 |
Byddwch angen tystiolaeth i ddangos oed eich plant, eich cyfeiriad, eich enillion a'ch incwm ac enillion ac incwm eich partner ar yr aelwyd (os yw'n berthnasol).
Dull Adnabod Plentyn
Fersiwn llawn o dystysgrif geni eich plentyn, neu, os nad yw'r fersiwn llawn gennych, byddwch angen:
- Y fersiwn fer o'r dystysgrif geni
- Prawf o gyfrifoldeb rhieni megis:
- Llythyr budd-dal plant
- Llythyr credyd treth
- Llythyr gan adran derbyniadau meithrinfa eich awdurdod lleol
- Cofnod meddygol neu lyfr coch eich plentyn
Prawf o gyfeiriad - wedi ei ddyddio o fewn y 3 mis diwethaf:
- Cyfriflen treth gyngor ddiweddaraf neu'r bil cyfleustodau mwyaf diweddar, megis nwy, dŵr, neu drydan;
- Cyfriflen treth gyngor ddiweddaraf;
- Os ydych yn byw gyda'ch rhieni, llythyr wedi ei arwyddo ganddyn nhw yn cadarnhau mai hwn yw eich preswylfa arferol.
- Cyfriflen fanc ddiweddaraf;
Prawf enillion
- Taflenni cyflog rhieni yn ystod y tri mis neu'r 12 wythnos ddiwethaf ar gyfer rhiant un A rhiant dau (os yw'n berthnasol);
- Newydd eu penodi - llythyr y cynnig swydd/cytundeb cyflogaeth (mae'n ofynnol ei fod yn nodi'r dyddiad dechrau, nifer o oriau gwaith a chyflog misol/blynyddol);
- Manylion cyswllt cyflogwr, yn cynnwys: cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost;
- Llythyr yr Adran Gwaith a Phensiynau diweddaraf i gadarnhau eich cymhwysedd ar gyfer un o'r budd-daliadau cymwys;
- Llythyr gan Adran Gwaith a Phensiynau neu lythyr gan gyflogwr cyfredol a fyddai'n gwneud rhieni'n gymwys i'r Cynnig Gofal Plant os nad ydynt mewn gwaith ar hyn o bryd;
- Os ydych yn hunangyflogedig (yn cynnwys gofal maeth) bydd angen un o'r canlynol arnoch:
- Ffurflen dreth Hunanasesu ddiweddaraf yn cynnwys rhif Cyfeirnod Treth Unigryw (UTC) a dyddiad cofrestru (SA302);
- Copi o gyfrifon diweddaraf;
- Llythyr gan eich cyfrifydd ynghylch faint rydych yn ei ennill.
Prawf o incwm blynyddol ychwanegol - (a manylion partner)
Os ydych yn ennill unrhyw rai o'r canlynol fel incwm blynyddol ychwanegol, bydd tystiolaeth o hyn yn ofynnol:
- Bonws
- Difidendau
- Incwm Rhent
- Lwfans Cynhaliaeth
- Lwfans Maethu
- Incwm o log
- Arall
Prawf o addysg neu hyfforddiant
- Tystiolaeth o fod wedi cofrestru'n ffurfiol ar gwrs AU neu AB perthnasol. Pan mae rhiant wedi gwneud cais am le ar gwrs AU neu AB perthnasol, ac wedi cael cynnig lle ar gwrs o'r fath, ond nad yw wedi cofrestru eto, dylai ddarparu tystiolaeth o gynnig ffurfiol o le ar y cwrs.
- Gwiriwch gyda’ch darparwr/wyr gofal plant i sicrhau eu bod wedi cofrestru i ddod yn rhan o’r Cynnig Gofal Plant ar gyfer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Trefnwch ddyddiau ac oriau gyda’r darparwyr gofal plant cyn cwblhau’r cais.
- Sicrhewch fod gennych yr holl dystiolaeth sydd ei hangen ar gyfer y cais a bod pob dogfen yn cael ei harbed, naill ai fel PDF neu ffeil delwedd.
- Ar ôl derbyn y cynnig bydd gofyn i rieni wneud cais am oriau’r cynnig gofal plant gyda’u darparwr dewisol.
Am ragor o wybodaeth am wasanaeth digidol y Cynnig Gofal Plant i Gymru ewch i wefan Llywodraeth Cymru.