Addewid Gwasanaeth Dechrau'n Deg
Pob Plentyn: Pob cyfle. Pob dydd.
Dyma'r addewid sydd wrth wraidd y cyfan a wnawn yn ein lleoliadau blynyddoedd cynnar.
Gweledigaeth
Bydd perthnasoedd cryf ac ymrwymiad dwfn i les plant bob amser wrth wraidd ein gwaith, gan ddarparu'r sylfaen ddiogel sydd ei hangen ar blant i ddysgu gyda hyder a chwilfrydedd.
Nod ein lleoliadau yw darparu dysgu cynnar eithriadol o'r ansawdd uchaf, lle mae amgylcheddau wedi'u cynllunio'n feddylgar ac mae’r addysgu’n arloesol gyda rhyngweithio effeithiol ag oedolion medrus ac ymatebol, y cyfan yn galluogi plant i ddatblygu a ffynnu.
Gyda'i gilydd, mae ein lleoliadau yn ffurfio rhwydwaith o ragoriaeth mewn datblygiad plentyndod cynnar gyda'r uchelgais o helpu i arwain a chryfhau ymarfer blynyddoedd cynnar ledled Pen-y-bont ar Ogwr a’r tu hwnt.
Cenhadaeth
Rydyn ni’n ymrwymedig at roi'r dechrau cryfaf mewn bywyd i bob plentyn.
Yn ein lleoliadau blynyddoedd cynnar cynhwysol o ansawdd uchel, rydyn ni’n darparu mannau dysgu diddorol, profiadau sy'n llawn chwarae a rhyngweithio ymatebol gydag ymarferwyr medrus, arbenigwyr mewn datblygiad plentyndod cynnar. Rydyn ni’n meithrin dysgwyr hyderus, gwydn, sydd â'r annibyniaeth, y chwilfrydedd a'r cariad at ddysgu sydd eu hangen arnynt i ffynnu.
Rydyn ni’n gwrando ar blant ac yn rhoi eu llais wrth wraidd ein gwaith, gan bartnera'n ystyrlon gyda theuluoedd a gweithwyr proffesiynol eraill i weithredu'n gynnar wrth gefnogi pob plentyn i lwyddo.
Fel lleoliadau awdurdodau lleol a darparwyr Dechrau'n Deg hirsefydlog, rydyn ni’n falch o'r rôl hanfodol rydyn ni’n ei chwarae i leihau anghydraddoldeb, codi safonau a sicrhau bod ein plant i gyd yn cael y cyfle i gyflawni eu potensial.
Ein Gwerthoedd
- Rydyn ni'n rhoi plant yn gyntaf – bob amser - Hawliau, lleisiau ac anghenion unigol plant sy’n gyrru ein penderfyniadau, ein hamgylcheddau a'n hymarfer.
- Rydyn ni’n gweithredu'n gynnar a gyda phwrpas - Rydyn ni’n defnyddio tystiolaeth, arsylwi a barn broffesiynol i ymyrryd yn gynnar, i leihau anghydraddoldebau a helpu pob plentyn i ffynnu.
- Rydyn ni’n adeiladu partneriaethau cryf sy'n gwneud gwahaniaeth - Rydyn ni’n gweithio ochr yn ochr â theuluoedd, cymunedau a phartneriaid, gan gydnabod bod newid parhaol yn digwydd pan fyddwn yn gweithio gyda'n gilydd.
- Rydyn ni’n weithwyr proffesiynol adfyfyriol, medrus ac ymroddedig - Rydyn ni’n gwella ein hymarfer yn barhaus, yn dysgu gan dystiolaeth a'n gilydd, ac yn ymdrechu am y safonau uchaf yn y cyfan a wnawn.
- Rydyn ni’n gwerthfawrogi lles fel sylfaen ar gyfer dysgu - Mae diogelwch emosiynol, perthyn a pherthnasoedd yn sail i ddatblygiad plant ac yn eu galluogi i fod yn ddysgwyr hyderus, galluog.
- Rydyn ni’n uchelgeisiol o ran dysgu ein plant - Rydyn ni’n creu profiadau dysgu cyfoethog, seiliedig ar chwarae ac yn defnyddio addysgeg fedrus i helpu, herio ac ymestyn ein plant i gyd i gyflawni eu gorau.