O 01 Mai i 30 Medi mae cŵn yn cael eu gwahardd oddi ar nifer o draethau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr - Gwahardd cŵn oddi ar draethau
Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid
Gyda'n gilydd byddwn yn cefnogi plant a phobl ifanc i atal ymddygiad troseddol drwy eu galluogi i ymateb yn gadarnhaol i'w cymunedau a chyrraedd eu llawn botensial.
Mae'r gwasanaeth yn gweithio gyda phobl ifanc 10 i 17 oed sydd naill ai mewn perygl o droseddu neu sydd wedi troseddu.
Mae Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr (BYJS) yn dîm amlasiantaeth sy'n cynnwys cynrychiolwyr o'r gwasanaethau cymdeithasol, addysg, yr heddlu, y gwasanaeth prawf, iechyd ac asiantaethau gwirfoddol.

Mae'r tîm ymyrraeth gynnar ac atal yn ceisio lleihau nifer y bobl ifanc sy'n ymwneud â throseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, neu sydd mewn perygl o hynny.

Diben y Biwro yw gwneud penderfyniadau am y ffordd fwyaf priodol o ddelio â throsedd.

Os cewch eich galw i fynd i'r llys, fe'ch cynghorir i gyrraedd yno'n gynnar fel eich bod yn gallu gweld i ble mae angen i chi fynd.

Os ydych chi wedi dioddef oherwydd trosedd ieuenctid, bydd ein swyddog dioddefwyr yn cysylltu â chi.

Gwneud iawn yw'r weithred neu'r broses o wneud pethau’n well ac mae'n gyfle i berson ifanc ddweud sori am y niwed mae wedi'i achosi.
Cysylltu
Os ydych angen help neu gyngor, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid: