O 01 Mai i 30 Medi mae cŵn yn cael eu gwahardd oddi ar nifer o draethau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr - Gwahardd cŵn oddi ar draethau
Gwneud iawn a gwaith di-dâl
Gwneud iawn yw'r weithred neu'r broses o wneud pethau’n well ac mae'n gyfle i berson ifanc ddweud sori am y niwed mae wedi'i achosi.
Cyflawnir hyn drwy gwblhau tasgau ymarferol sydd naill ai o fudd uniongyrchol i'r person mae wedi'i niweidio neu'r gymuned gyfan.
Gellir rhoi 40 i 240 o oriau o waith di-dâl i bobl ifanc 16 neu 17 oed fel rhan o Orchymyn Adsefydlu Ieuenctid.
I bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth (ETE), gall y gwaith di-dâl ddigwydd am o leiaf 4 awr y dydd, 4 diwrnod yr wythnos.
Disgwylir i bobl ifanc ETE gwblhau sesiynau bob wythnos.

Cynhelir Asesiad Risg o’r holl dasgau gwneud iawn a’r gwaith di-dâl ac maent yn cael eu goruchwylio gan Swyddogion y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid.
Mae gan Wasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr gysylltiadau â nifer o sefydliadau a grwpiau cymunedol ledled y fwrdeistref. Os hoffech chi awgrymu neu enwebu prosiect, cysylltwch â ni.

