O 01 Mai i 30 Medi mae cŵn yn cael eu gwahardd oddi ar nifer o draethau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr - Gwahardd cŵn oddi ar draethau
Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd
Mae’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (FIS) yn darparu cyngor a gwybodaeth ddiduedd ynglŷn ag amrywiaeth o wasanaethau i blant a phobl ifanc (o enedigaeth hyd at 25 mlwydd oed), rhieni/teuluoedd a gweithwyr proffesiynol, am ddim.
Gallwn ddarparu gwybodaeth, cymorth a chyngor ar y canlynol:
- Darpariaethau Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant
- Cyllid Gofal Plant
- Gweithgareddau Plant a Phobl Ifanc
- Gwybodaeth a Chyfeirio Gyrfaoedd ym maes Gofal Plant
- Cyfleoedd Hyfforddiant Gofal
- Sefydliadau Cefnogi Teuluoedd
- Cymorth Ariannol i Deuluoedd
- Cyfeirio at sefydliadau preifat, Statudol a Gwirfoddol Cenedlaethol sy’n cefnogi Plant a Phobl Ifanc.

Gwasanaethau

Gwybodaeth i Deuluoedd
Gwybodaeth ar ofal plant, gweithgareddau a chefnogaeth i blant, pobl ifanc a theuluoedd.

Gwybodaeth am Ddarparwyr
Gwybodaeth am ddarparwyr gofal plant presennol a’r rhai sy’n dymuno dod yn ddarparwyr gofal plant.

Gwybodaeth Ôl-16
Gwybodaeth am gyfleoedd i bobl ifanc wrth iddynt ddatblygu drwy’r ysgol a thu hwnt.