Nod y cwrs hwn yw cynnig dealltwriaeth fanwl i ymgeiswyr o Ddiogelwch Plant, yn benodol, mewn perthynas â'r systemau sy'n bodoli i ddiogelu plant a'u rolau o fewn y systemau hyn.
Bydd ymgeiswyr yn ennill dealltwriaeth fanwl a chlir o'r systemau sy'n bodoli i ddiogelu plant a'u rolau o fewn y systemau hyn.
Yn ogystal â hynny, bydd hyfforddiant ar y lefel hon hefyd yn rhoi dealltwriaeth i ymgeiswyr o ddeddfwriaeth ac arweiniad.
Fel arfer dda, dylai ymgeiswyr ymgymryd â'r cwrs hwn o leiaf bob tair blynedd, neu'n fwy rheolaidd, yn ôl yr angen.