O 01 Mai i 30 Medi mae cŵn yn cael eu gwahardd oddi ar nifer o draethau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr - Gwahardd cŵn oddi ar draethau
Gwybodaeth i deuluoedd
Mae’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (FIS) yn cynnig cymorth, cefnogaeth a chyngor diduedd ac am ddim ar ystod o faterion teuluol gan gynnwys:
- Gofal plant a chymorth gyda chostau gofal plant
- Gofal iechyd
- Addysg a hyfforddiant
- Gwasanaethau hamdden
- Cyllid
Gallwn eich galluogi chi i gysylltu ag arbenigwyr a fydd yn cynnig cymorth a chefnogaeth bwrpasol ac am ddim, yn briodol i’ch anghenion unigol, a’ch cyfeirio chi at wybodaeth ddefnyddiol a gwasanaethau Rhaglenni Llywodraeth Cymru.

Mathau o ddarpariaethau
- Gofalwr plant - Mae gofalwr plant yn cynnig amgylchedd dysgu a gofal proffesiynol i un neu fwy o blant o oedrannau gwahanol yn eu cartrefi eu hunain, ac yn cael tâl am wneud. Rhaid i ofalwyr plant fod wedi cofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru os ydyn nhw’n gweithio am fwy na dwy awr mewn diwrnod.
- Cylchoedd Meithrin - Grwpiau chwarae cyfrwng Cymraeg yw Cylchoedd Meithrin sy’n cynnig sesiynau gofal dydd (yn y bore a’r prynhawn), fel arfer rhwng dwy a thair awr y diwrnod i blant rhwng tri a phump oed.
- Meithrinfa ddydd - Mae meithrinfeydd dydd yn cynnig gofal dydd i blant hyd at pan fyddant yn bump oed. Maen nhw fel arfer ar agor rhwng dydd Llun a dydd Gwener trwy’r flwyddyn. Rhaid i feithrinfeydd dydd yng Nghymru fod wedi cofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru.
- Grŵp chwarae - Mae grwpiau chwarae yn cynnig sesiynau gofal dydd sesiynol (yn y bore a’r prynhawn), fel arfer rhwng dwy a thair awr y dydd i blant rhwng tri a phump oed. Rhaid i grwpiau chwarae yng Nghymru sy’n gweithredu am fwy na dwy awr y dydd fod wedi cofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru.
- Clybiau allan o ysgol - Mae clybiau allan o ysgol yn cynnig brecwast a/neu ddarpariaeth ar ôl ysgol i blant y tu allan i oriau ysgol. Gall clybiau allan o ysgol gael eu rhedeg gan ysgolion neu ddarparwyr preifat a rhoi cyfle i blant chwarae a chymdeithasu.
Addysg gynnar
Ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar hyn o bryd, y cynnig addysg gynnar ran amser yw 10 awr yr wythnos, ac mae ar gael o’r tymor ar ôl pen-blwydd plentyn yn dair oed hyd at 31 Awst ar ôl eu pen-blwydd yn dair oed pan fyddant yn dod yn gymwys am le llawn amser mewn meithrinfa.
- Gellid cynnal addysg gynnar ran-amser mewn meithrinfa a gynhelir (ysgol) neu ddarpariaeth nas cynhelir a ariennir.
- Bydd ceisiadau am addysg gynnar ran-amser mewn darpariaeth a gynhelir yn cael eu llenwi ar-lein drwy dderbyniadau i ysgolion.
- Bydd ceisiadau am addysg gynnar ran amser mewn darpariaeth na chynhelir a ariennir yn cael eu llenwi drwy’r darparwr gofal plant. Cysylltwch â’r darparwr yn uniongyrchol i gael gwybod am argaeledd a ffurflen gais.
Ym Mhen-y-bont ar Ogwr mae plant yn dod yn gymwys am addysg gynnar llawn amser o fis Medi yn dilyn eu pen-blwydd yn dair oed mewn meithrinfa a gynhelir.
Bydd ceisiadau am le llawn amser mewn meithrinfa yn cael eu cyflwyno ar-lein drwy dderbyniadau i ysgolion.
Bydd ceisiadau am le mewn dosbarth derbyn yn cael eu llenwi ar-lein mewn derbyniadau i ysgolion.
- Banana Moon Bracla
- Meithrinfa Bizzi Day
- Meithrinfa Ddydd Coleg Pen-y-bont ar Ogwr
- Busy Bees
- Cylch Meithrin Cynwyd Sant
- Cylch Meithrin Sarn
- Cylch Meithrin Sger
- Banana Moon Coity
- Little Footsteps
- Little Stars
- Grŵp Chwarae North Cornelly
- Gofal Dydd Schoolhouse
- Standing to Grow
- Ysgol St Clare
- The Burrows
- Meithrinfa Ddydd y Plant
- Cylch Chwarae Pentref Cwm Garw
- Grŵp Chwarae Pentref Tondu
- Y Bont

Cynnig Gofal Plant i Gymru
Mae’r Ddarpariaeth Gofal Plant ar gyfer Cymru yn darparu hyd at 30 awr yr wythnos o ofal plant yn cael ei gyllido gan y Llywodraeth ac addysg gynnar ar gyfer rhieni cymwys sy’n gweithio ac sydd â phlant tair i bedair oed, am hyd at 48 wythnos y flwyddyn, 39 wythnos yn ystod y tymor a hyd at naw wythnos o ddarpariaeth gwyliau.

Dechrau’n Deg
Mae Dechrau’n Deg yn cynnig cymorth a chefnogaeth am ddim i blant o dan bedair oed mewn ardaloedd penodol. Ei nod yw gwella eu cyfleoedd a rhoi ‘dechrau teg’ iddynt pan fyddan nhw’n mynd i’r ysgol. Mae’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.
Gwasanaethau Cymorth Cynnar Pen-y-bont ar Ogwr
Gwasanaeth gwirfoddol yw’r Tîm Cymorth Cynnar, a’i nod yw helpu i ddarparu’r gefnogaeth gywir i chi a’ch teulu i gynorthwyo newid positif. Rydym yn rhoi’r teulu wrth wraidd y gefnogaeth o’r cychwyn cyntaf o unrhyw ymyrraeth gyda’r gwasanaeth.
Dewis Cymru
Gallwch chwilio am wefan Dewis Cymru i gael manylion am wasanaethau, gan gynnwys gofal plant a gweithgareddau i blant:
