Mabwysiadu

Mae Gwasanaeth Mabwysiadu Bae’r Gorllewin yn cynnwys tair o asiantaethau mabwysiadau awdurdodau lleol sy’n gweithio gyda’i gilydd, sef Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe.

Trwy gydweithio, mae gwasanaeth Bae’r Gorllewin yn cynnig gwasanaeth cymorth mabwysiadu gwell i ddarpar fabwysiadwyr, mabwysiadwyr, plant mabwysiedig ac oedolion a fabwysiadwyd pan oeddynt yn blant.

Nod Gwasanaeth Mabwysiadu Bae’r Gorllewin yw cynnig y gwasanaethau mabwysiadu gorau posibl – mae’r gwasanaethau lleol, a gydgysylltir yn ganolog, yn galluogi’r asiantaeth i baru plant gyda mabwysiadwyr mor gyflym â phosibl.

Mae Gwasanaeth Mabwysiadu Bae’r Gorllewin yn gwybod am yr holl blant sy’n aros am deuluoedd newydd o fewn y tair bwrdeistref sirol, gan anelu at sicrhau y caiff plant eu cysylltu a’u paru â’r teuluoedd a all ddiwallu eu hanghenion yn y ffordd orau.

Yn ogystal â chynnig cymorth i fabwysiadwyr yn ystod ac yn dilyn y broses fabwysiadu, mae Gwasanaeth Mabwysiadu Bae’r Gorllewin yn cynnig cymorth i blant a phobl ifanc y mae mabwysiadu wedi effeithio arnynt.

Chwilio A i Y

Back to top