Maethu

Tîm Maethu Cymru Pen-y-bont ar Ogwr yw eich darparwr maethu lleol a’ch rhwydwaith cefnogi.

Nid gwasanaeth maethu arferol mohonom; rydym yn llawer mwy cysylltiedig. Rydym yn rhan o’r rhwydwaith cenedlaethol o wasanaethau maethu’r 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru ac yn cydweithio er mwyn adeiladu gwell dyfodol i blant lleol.

Fel sefydliad nid er elw, rydym wedi ymrwymo i weithio fel tîm gyda gofalwyr maeth er mwyn helpu i adeiladu dyfodol disglair ar gyfer plant ardal Pen-y-bont ar Ogwr. 

Rydym yn eu helpu i aros yn eu cynefinoedd cyfarwydd, lle sy’n iawn iddyn nhw.

Llawlyfr Gofalwyr Maeth 

Llawlyfr fel canllaw i ofalwyr maeth ei ddilyn ar gyfer pob agwedd ar waith maethu, gan gynnwys cyfrifoldebau ynghylch iechyd, addysg, gofal mwy manwl a materion ariannol plant.

Chwilio A i Y

Back to top