O 01 Mai i 30 Medi mae cŵn yn cael eu gwahardd oddi ar nifer o draethau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr - Gwahardd cŵn oddi ar draethau
Cynllun ECO4
ECO4 yw’r cynllun Rhwymedigaeth Cwmni Ynni diweddaraf sy’n cael ei weinyddu gan OFGEM.
Nod Cyllid Eco yw helpu pobl sy’n byw mewn tlodi tanwydd ac sy’n agored i’r risg o fyw mewn cartref oer, ac y mae eu tŷ’n aneffeithlon o ran ynni.
Mae cyllid eco yn talu am fesurau effeithlonrwydd ynni, fel gwelliannau o ran gwresogi a gosod deunydd insiwleiddio, gan helpu i leihau cost gwresogi’r cartref a chreu arbedion carbon, sy’n dda i’r amgylchedd hefyd.
Mae’n bosib y bydd preswylwyr yn gymwys am fesurau cyllid ECO os ydynt yn derbyn un o’r budd-daliadau canlynol:
- Lwfans Ceisio Gwaith Seiliedig ar Incwm (JSA)
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Cysylltiedig ag Incwm (ESA)
- Cymhorthdal Incwm (IS)
- Credyd Gwarant Credyd Pensiwn (PCGC)
- Credyd Treth Gwaith (WTC)
- Credyd Treth Plant (CTC)
- Credyd Cynhwysol (UC)
- Budd-dal Tai
- Credyd Cynilion Credyd Pensiwn (PCSC)
- Budd-dal Plant (yn ddibynnol ar gyfansoddiad a chapiau incwm)
Os nad yw’r un o’r budd-daliadau hyn yn cael eu hawlio, mae’n dal yn bosib y bydd yr aelwyd yn gallu derbyn mesurau wedi’u hariannu drwy’r broses cymhwysedd hyblyg (sef ’ECO Flex’). Er enghraifft, os yw incwm cyfunol yr aelwyd yn llai na £31,000 neu os oes gan rywun yn y cartref gyflwr meddygol sy’n eu gwneud yn gymwys.
Mae'r datganiad o fwriad hwn yn diffinio meini prawf cymhwysedd hyblyg Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer ECO4 Flex.

Sut i wneud cais?
Gosodwyr
Mae’r cyngor wedi ffurfio partneriaeth ag E.ON i ddarparu ECO4 Flex. Os ydych yn gwmni gosod ac yn dymuno holi ynghylch ymuno â’n cynllun, cysylltwch ag E.ON ar:
Preswylwyr
Os ydych yn meddwl y gallech fod yn gymwys am Gyllid ECO, siaradwch â sefydliad sy’n gallu cynnig cymorth diduedd, am ddim ar leihau biliau ac asesu a allech fod yn gymwys am gyllid, naill ai gan ECO neu drwy unrhyw raglenni grant eraill, i helpu i dalu am welliannau i’ch cartref.
Mae Cymru Gynnes yn un darparwr sy’n cynnig cymorth o’r fath i unrhyw breswylwyr yng Nghymru:
Sylwch: Ni fydd y cyngor yn derbyn unrhyw geisiadau yn ymwneud ag ECO. Os bydd asesiad yn dangos bod posibilrwydd eich bod yn gymwys am gyllid, byddwch yn cael eich cyfeirio at y darparwr cynllun cyllid perthnasol neu gwmni gosod cymeradwy.
Os oes angen cymhwysedd ECO Flex, bydd y cwmni gosod yn gofyn ichi ddarparu dogfennau iddynt, i’w helpu i gynnwys tystiolaeth gyda’ch cais. Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei rhoi i’r cyngor er mwyn ei gwirio drwy ein partner darparu ECO Flex, sef E.ON.

Cyngor ynghylch ynni gan y Tîm Cynghori Ynni’r Cartref (HEAT)
Mae HEAT yn cynnig eiriolaeth a chymorth mentora 1 i 1 i aelwydydd bregus yng Nghymru a Lloegr.
Maent yn darparu cefnogaeth barhaus trwy gydol y broses, gan helpu cwsmeriaid i ddeall eu hopsiynau a gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth.
Mae hyn yn cynnwys:
- Mynd i’r afael ag argyfyngau ynni
- Rheoli dyled ynni a materion cysylltiedig
- Cynrychioli’r cwsmer
- Cael mynediad at grantiau ynni a chronfeydd argyfwng
- Gwneud y defnydd gorau a mwyaf effeithlon o ynni