Effeithlonrwydd Ynni Cartref

Gwybodaeth a chanllawiau ar gyfer effeithlonrwydd ynni cartrefi, gan gynnwys:

  • ECO4
  • Cymru Gynnes
  • Cynllun Nyth
  • Cyngor Ynni HEAT
  • Homewise
House energy rating graphic

ECO4

ECO4 yw’r cynllun Rhwymedigaeth Cwmni Ynni diweddaraf sy’n cael ei weinyddu gan OFGEM.

Nod Cyllid Eco yw helpu pobl sy’n byw mewn tlodi tanwydd ac sy’n agored i’r risg o fyw mewn cartref oer, ac y mae eu tŷ’n aneffeithlon o ran ynni.

Mae cyllid eco yn talu am fesurau effeithlonrwydd ynni, fel gwelliannau o ran gwresogi a gosod deunydd insiwleiddio, gan helpu i leihau cost gwresogi’r cartref a chreu arbedion carbon, sy’n dda i’r amgylchedd hefyd.

Mae’n bosib y bydd preswylwyr yn gymwys am fesurau cyllid ECO os ydynt yn derbyn un o’r budd-daliadau canlynol:

  • Lwfans Ceisio Gwaith Seiliedig ar Incwm (JSA)
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Cysylltiedig ag Incwm (ESA)
  • Cymhorthdal Incwm (IS)
  • Credyd Gwarant Credyd Pensiwn (PCGC)
  • Credyd Treth Gwaith (WTC)
  • Credyd Treth Plant (CTC)
  • Credyd Cynhwysol (UC)
  • Budd-dal Tai
  • Credyd Cynilion Credyd Pensiwn (PCSC)
  • Budd-dal Plant (yn ddibynnol ar gyfansoddiad a chapiau incwm)

Os nad yw’r un o’r budd-daliadau hyn yn cael eu hawlio, mae’n dal yn bosib y bydd yr aelwyd yn gallu derbyn mesurau wedi’u hariannu drwy’r broses cymhwysedd hyblyg (sef ’ECO Flex’). Er enghraifft, os yw incwm cyfunol yr aelwyd yn llai na £31,000 neu os oes gan rywun yn y cartref gyflwr meddygol sy’n eu gwneud yn gymwys.

Mae'r datganiad o fwriad hwn yn diffinio meini prawf cymhwysedd hyblyg Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer ECO4 Flex. 

Mae’r cyngor wedi ffurfio partneriaeth ag E.ON i ddarparu ECO4 Flex. Os ydych yn gwmni gosod ac yn dymuno holi ynghylch ymuno â’n cynllun, cysylltwch ag E.ON ar: 

Os ydych yn meddwl y gallech fod yn gymwys am Gyllid ECO, siaradwch â sefydliad sy’n gallu cynnig cymorth diduedd, am ddim ar leihau biliau ac asesu a allech fod yn gymwys am gyllid, naill ai gan ECO neu drwy unrhyw raglenni grant eraill, i helpu i dalu am welliannau i’ch cartref.

Mae Cymru Gynnes yn un darparwr sy’n cynnig cymorth o’r fath i unrhyw breswylwyr yng Nghymru:

Cymru Gynnes

Ffôn: Dewiswch opsiwn 1: 0800 091 1786

Sylwch: Ni fydd y cyngor yn derbyn unrhyw geisiadau yn ymwneud ag ECO. Os bydd asesiad yn dangos bod posibilrwydd eich bod yn gymwys am gyllid, byddwch yn cael eich cyfeirio at y darparwr cynllun cyllid perthnasol neu gwmni gosod cymeradwy.

Os oes angen cymhwysedd ECO Flex, bydd y cwmni gosod yn gofyn ichi ddarparu dogfennau iddynt, i’w helpu i gynnwys tystiolaeth gyda’ch cais. Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei rhoi i’r cyngor er mwyn ei gwirio drwy ein partner darparu ECO Flex, sef E.ON.  

Cynllun Nyth

Mae cynllun Nyth Cartrefi Cynnes Llywodraeth Cymru yn gwneud cartrefi Cymru yn lleoedd cynhesach a mwy ynni-effeithlon i fyw ynddynt. Mae Nyth yn darparu gwelliannau cartref ynni-effeithlon am ddim i aelwydydd cymwys fel gwresogi, inswleiddio, neu baneli solar.

Mae gan bob aelwyd yng Nghymru hefyd fynediad at gyngor diduedd am ddim i'ch helpu i leihau eich biliau ynni, gwneud yn fawr o'ch incwm, a gwella eich ôl troed carbon. 

Mae'r cynllun yn cynnig cyngor diduedd am ddim i bob cartref yng Nghymru i'ch helpu i ostwng eich biliau ynni a gwella eich iechyd a'ch lles.

Gallai aelwydydd fod yn gymwys i gael gwelliannau effeithlonrwydd ynni cartref am ddim os ydych chi'n bodloni'r 3 amod: 

  • rydych chi'n berchen ar eich cartref neu'n rhentu eich cartref yn breifat (nid gan awdurdod lleol na chymdeithas dai)
  • rydych chi'n derbyn budd-dal sy’n dibynnu ar brawf modd neu rydych chi'n byw mewn aelwyd incwm isel
  • mae gan eich cartref sgôr TPY o 54 (E) neu lai; neu 68 (D) neu lai ac mae gan rywun yn eich cartref gyflwr iechyd cymwys. 

I gael cyngor ar arbed ynni, neu i ddarganfod a ydych chi'n gymwys i gael gwelliannau effeithlonrwydd ynni cartref am ddim, cysylltwch â: 

Ffôn: Rhadffon: 0808 808 2244
Oriau Agor 1: Dydd Llun i ddydd Gwener: 9am - 6pm.

Homewise

Mae Homewise yn helpu preswylwyr i greu cartrefi cynhesach, iachach ac arbed ar eu biliau ynni gyda chynllun gweithredu ôl-osod wedi'i deilwra o'u hoffer eiddo.

Trwy lenwi arolwg ar-lein syml, gall preswylwyr gael cynllun gweithredu ynni’r cartref personol wedi'i deilwra i'w hanghenion a'u cyllideb mewn munudau. Byddant hefyd yn cael sgôr TPY dangosol a dadansoddiad o'r gost ar gyfer unrhyw waith ac arbedion posibl.

HEAT logo

Cyngor ynghylch ynni gan y Tîm Cynghori Ynni’r Cartref (HEAT)

Mae HEAT yn cynnig eiriolaeth a chymorth mentora 1 i 1 i aelwydydd bregus yng Nghymru a Lloegr. 

Maent yn darparu cefnogaeth barhaus trwy gydol y broses, gan helpu cwsmeriaid i ddeall eu hopsiynau a gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth. 

Mae hyn yn cynnwys:

  • Mynd i’r afael ag argyfyngau ynni
  • Rheoli dyled ynni a materion cysylltiedig
  • Cynrychioli’r cwsmer
  • Cael mynediad at grantiau ynni a chronfeydd argyfwng
  • Gwneud y defnydd gorau a mwyaf effeithlon o ynni

Chwilio A i Y

Back to top