Mannau gwefru cerbydau trydan
Dweud eich dweud
Ydych chi eisiau gwefru cerbyd trydan gartref ond heb dramwyfa?
Rydym yn gwybod bod hyn yn her i lawer o breswylwyr, ac rydym bellach yn casglu diddordeb i helpu i lunio atebion gwefru cerbydau trydan yn y dyfodol ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Rydym eisoes wedi cael adborth cryf sy'n dangos bod galw gwirioneddol am gwefru cerbydau trydan ar gyfer cartrefi fel tai teras a fflatiau.
Os yw hyn yn berthnasol i chi, rydym eisiau clywed oddi wrthych er mwyn gallu deall y galw yn well a nodi lle gallai fod angen atebion fel gwefru ar draws palmentydd.
- Dywedwch wrthym ble rydych chi'n byw
- Cofrestrwch eich diddordeb
- Helpwch i lunio cynlluniau i'r dyfodol
Mae mannau gwefru hygyrch oddi ar y stryd i'w cael yn y lleoliadau canlynol:
|
Lleoliad |
Math o wefrwr |
|---|---|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Er mwyn gweld ble mae eich pwynt gwefru agosaf, ewch draw i'r wefan Zap Map.
Mathau o wefrwyr
Mae'r gwefrwyr yn cael eu cynhyrchu, eu gosod a'u cynnal gan Swarco UK Ltd. Maent yn unedau sydd wedi eu gosod ar y llawr a hefyd yn unedau sydd wedi eu gosod ar wal yn ein hamrywiol leoliadau, ac yn y rhan fwyaf o leoliadau ceir dewis i wefru hyd at un ai:
- 7kW AC - Gwefru araf
- 22kW AC (neu 11kW AC os nad yw eich car yn derbyn gwefru 22kW AC) - Gwefru cyflym
Mae gwefrwyr hygyrch i'w cael ym mhob lleoliad ar gyfer defnyddwyr sydd â gofynion penodol.
Sut i'w defnyddio
Mae'r pwyntiau gwefru yn cael eu gweithredu gan Clenergy-ev.
Er mwyn eu defnyddio byddwch angen gofrestru drwy'r ap Clenergy-ev. Mae'r ap yn caniatáu i chi reoli faint rydych yn ei dalu i wefru.
Mae cod QR i'r ap ar bob gwefrwr.
Cysylltu
Am ragor o wybodaeth ynghylch gwefrwyr EV yr awdurdod, cysylltwch os gwelwch yn dda gyda: