Llythrennedd Carbon

Mae Llythrennedd Carbon yn cynnwys deall effeithiau carbon gweithgareddau bob dydd a dysgu ffyrdd ymarferol o leihau allyriadau.

Ydych chi eisiau cael y wybodaeth, y sgiliau a'r cymhelliant i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd yn eich cymuned a dod yn garbon-wybodus?

Trwy hyfforddiant, gellir gwella ymwybyddiaeth amgylcheddol a chreu rhwydwaith o drigolion gwybodus a rhagweithiol sy'n ymroddedig i greu cymuned gynaliadwy a gwydn, gan eich galluogi i ddeall a lleihau eich ôl troed carbon.

Rydym am helpu cymunedau i gyflawni llythrennedd carbon, gan roi hwb i gynaliadwyedd ar lawr gwlad. Trwy feithrin ymwybyddiaeth a hyrwyddo arferion cynaliadwy, mae llythrennedd carbon yn grymuso unigolion a grwpiau i gymryd camau ystyrlon tuag at ddyfodol carbon isel.

Barod i gymryd y cam cyntaf?

  1. Cofrestrwch i dderbyn manylion hyfforddiant llythrennedd carbon ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
  2. Dilynwch ni ar Facebook, Instagram ac X i weld adnoddau, fideos hyfforddi a straeon cymunedol.
  3. Gwirfoddolwch yn eich digwyddiad cyntaf a dysgu sut y gall gweithredu ar y cyd sbarduno newid ystyrlon.

Gyda'n gilydd, gallwn rymuso ein cymdogion, cryfhau ein cymunedau ac adeiladu dyfodol gwyrddach - un weithred leol ar y tro.

I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru i dderbyn diweddariadau, cysylltwch â:

Chwilio A i Y

Back to top