Ailddatblygu Neuadd y Dref Maesteg

Nododd dydd Mercher 20 Tachwedd 2024 ddiwrnod hanesyddol i bobl Maesteg a Chwm Llynfi ehangach, wrth i Neuadd y Dref Maesteg agor ei drysau i’r cyhoedd yn swyddogol, yn dilyn prosiect ailddatblygu hynod uchelgeisiol gwerth nifer o filiynau o bunnoedd, a gyflawnwyd gan y Cyngor a’i bartneriaid yn Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen.

Mae’r adeilad rhestredig Gradd II, a gafodd ei adeiladu yn 1881, wedi dychwelyd i’w fawredd blaenorol, gyda nodweddion ychwanegol megis atriwm gwydr, llyfrgell a chanolfan dreftadaeth, theatr stiwdio ac ardal sinema, ynghyd â chaffi a bar mesanîn newydd.  

Mae’r prif awditoriwm wedi cael ei adnewyddu’n llawn i fod yn lleoliad celfyddydau perfformio aml-swyddogaethol, gan gynnwys lifft llwyfan, ystafelloedd gwisgo a bar. Mae'r balconi hefyd wedi cael ei gadw a'i adnewyddu.  Mae atriwm gwydr modern a chyntedd yn wynebu Stryd Talbot ac yn cysylltu dwy ardal yr adeilad. 

Neuadd y dref Maesteg

Mae gwarchod nodweddion treftadaeth bensaernïol yr adeilad, fel y colofnau, cornisiau, teils a’r pyrth bwaog brics wedi bod yn rhan allweddol o’r prosiect. Mae paentiadau hanesyddol gan Christopher Williams hefyd wedi cael eu hadfer a bellach yn cael eu harddangos yn y brif neuadd.

Cafodd y prosiect ei gwblhau gan Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gan weithio mewn cydweithrediad ag Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, Knox and Wells Ltd, Purcell architects a Mace Ltd i wireddu un o’r buddsoddiadau mwyaf ym Maesteg ers degawdau.

I ddysgu rhagor am Neuadd y Dref Maesteg, ewch i wefan Neuadd y Dref Maesteg.

Cyswllt

Cyfeiriad: Tîm Adfywio, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen‑y‑Bont ar Ogwr, Civic Offices, Angel Street, CF31 4WB.
Cyfeiriad ebost: regeneration@bridgend.gov.uk

Chwilio A i Y

Back to top