Mae Cymorth Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig gweithgareddau AM DDIM i bobl 11 oed a hŷn drwy gydol y gwyliau - Rhaglen yr Haf
Ailddatblygiad Pafiliwn y Grand Porthcawl
Mae pafiliwn eiconig y Grand ym Mhorthcawl wedi derbyn £18m o gyllid gan Lywodraeth y DU i gefnogi'r gwaith o ailddatblygu a gwarchod y tirnod glan môr.
Mae'r cyngor, Llywodraeth Cymru a Chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU wedi rhoi cyllid cyfatebol ychwanegol i gefnogi'r prosiect.
Bydd ailddatblygu'r adeilad rhestredig Gradd II yn mynd i'r afael â'r risgiau presennol i ffabrig yr adeilad tra'n bodloni anghenion a dyheadau pobl leol am fwy o wasanaethau celfyddydau a threftadaeth, a gwasanaethau o ansawdd gwell.


Mae’r gwaith cadwraeth ac atgyweirio ar rai o nodweddion Art Deco eiconig yr adeilad yn cynnwys:
- gwaith i dŵr y cloc a’r ffenestri gwydr lliw
- estyniadau newydd gan gynnwys pafiliwn to gwydr gyda golygfeydd ar draws Môr Hafren
- lifft
- awditoriwm
- oriel
- tai bach
- adfer y to cromennog gwreiddiol yn sensitif
- ailosod y ceiliog gwynt morol gwreiddiol