Apeliadau gwerth ardrethol

Asesir gwerth trethadwy eiddo gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio, sy’n asiantaeth gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi.

Mae’r gwerth ardrethol yn seiliedig ar gost rhentu’r eiddo pe byddai’n cael ei rentu ar y farchnad agored ar ddyddiad prisio sefydlog:

  • Tan 31 Mawrth 2023, seiliwyd y gwerthoedd trethadwy ar ddyddiad prisio o 1 Ebrill 2015 ymlaen.
  • O 1 Ebrill 2023, seilir y gwerthoedd trethadwy ar ddyddiad prisio o 1 Ebrill 2021 ymlaen.

Os ydych chi’n credu bod eich gwerth ardrethol yn anghywir, darllenwch fanylion eich eiddo ar gov.uk.

Mae gan ambell eiddo ddibenion domestig ac annomestig. Un esiampl yw tafarn gyda fflat uwch ei phen. Yn yr achosion hynny, mae ardrethi busnes yn daladwy ar y rhan annomestig, ac mae’r dreth gyngor yn daladwy ar y rhan ddomestig. Gelwir eiddo o’r fath yn eiddo cyfansawdd hefyd.

Ailbrisio ardrethi busnes

Ailasesir gwerthoedd trethadwy pob eiddo busnes bob pum mlynedd. Yr enw ar hyn yw ‘ailbrisiad’ a chynhaliwyd yr ailbrisiad diwethaf ar 1 Ebrill 2023.

Mae’n digwydd i gadw’r system yn deg drwy ailddosbarthu cyfanswm y swm taladwy mewn ardrethi busnes i adlewyrchu newidiadau yn y farchnad eiddo.

Nid yw ailbrisio’n codi refeniw ychwanegol yn gyffredinol.

Apeliadau

Sylwer bod ardrethi’n daladwy o hyd wrth i apeliadau gael eu prosesu. Os bydd eich apêl yn llwyddiannus, byddwn yn gwneud addasiad ac yn rhoi ad-daliad os yw hynny’n berthnasol.

O dan rai amgylchiadau, efallai y bydd gennych hawl i log.

I apelio yn erbyn eich gwerth ardrethol, cysylltwch ag:

Ffôn: 03000 505505

Cysylltu

Cyfeiriad: Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB
Ffôn: Dewiswch opsiwn tri. 01656 643643
Cyfeiriad ebost: taxation@bridgend.gov.uk
Cyfnewid testun: Rhowch 18001 cyn bob un o’n rhifau ffôn.
Oriau Agor 1: Llun i Iau: 8:30am i 5pm.
Oriau Agor 2: Gwener: 8:30am i 4:30pm.

Chwilio A i Y

Back to top